Robert Herrick

ysgrifennwr, bardd (1591-1674)

Bardd ac offeiriad Anglicanaidd o Sais oedd Robert Herrick (Awst 1591Hydref 1674). Fe'i ystyrir yn un o'r beirdd Cafaliraidd, er nad oedd yn llyswr nac yn filwr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr.

Robert Herrick
Ganwyd24 Awst 1591 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1674 Edit this on Wikidata
Dyfnaint Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHesperides (barddoniaeth) Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Robert Herrick yn Llundain. Ni wyddys ei ddyddiad geni, ond cafodd ei fedyddio ar 24 Awst 1591. Aeth yn brentis i'w ewythr, y gof aur Syr William Herrick. Aeth i Gaergrawnt yn 1613 i astudio yng Ngholeg Sant Ioan, a derbyniodd ei radd baglor yn 1617 a'i radd meistr yn 1620. Cafodd ei ordeinio yn 1623.[1]

Dychwelodd i Lundain i fyw am gyfnod yng nghwmni beirdd, dramodwyr, cerddorion, a gwŷr ffraeth y llys brenhinol. Roedd yn gyfarwydd â Ben Jonson, yr hwn a fu'n ddylanwad enfawr arno. Yn 1627 ymunodd Herrick, yn gaplan i George Villiers, Dug Buckingham, â'r ymgyrch fethedig i'r Île de Ré i ryddhau La Rochelle a chynorthwyo'r Hiwgenotiaid yn y gwrthryfel yn erbyn Louis XIII, brenin Ffrainc.[1]

Aeth i weinidogaethu'r plwyf yn Dean Prior, Dyfnaint, yn 1629, a bu yno am weddill ei oes. Yn y cyfnod 1646–60, o ddiwedd Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr hyd yr Adferiad, cafodd ei ddiswyddo o'i weinidogaeth oherwydd ei gefnogaeth dros y Brenhinwyr. Bu farw yn Dean Prior yn 82 oed.[1]

Barddoniaeth golygu

Yn y 1620au daeth Herrick yn fardd amlwg yn Llundain, a chofnodir ei gerddi mewn nifer o goflyfrau'r cyfnod. Er gwaethaf, yr unig lyfr a gyhoeddwyd ganddo oedd Hesperides (1648), gwaith sy'n cynnwys y casgliad o gerddi ar bynciau crefyddol a elwir "His Noble Numbers". Mae tua 1,400 o gerddi ac epigramau yn y gyfrol honno i gyd, y mwyafrif ohonynt yn fyr iawn. Wedi'r cyhoeddiad hwnnw, ymddengys ei farddoniaeth mewn casgliadau amrywiol a llyfrau caneuon yn ail hanner yr 17g. Henry Lawes oedd un o'r cyfansoddwyr a gyfansoddodd cerddoriaeth i benillion Herrick.[1]

Hanes cyhoeddi ei waith a'i dderbyniad golygu

Am ryw ganrif wedi ei farwolaeth, cafodd barddoniaeth Herrick ei esgeuluso ym myd llenyddol Lloegr. Adfywiodd ddiddordeb yn ei waith pryd ymddangosodd rhai o'i gerddi yn The Gentleman's Magazine, dan olygyddiaeth John Nichols, yn niwedd y 18g. Cafodd Hesperides ei gwerthfawrogi am grefft ei telynegiaeth a syberwyd ei bugeilgerddi, ac ymddengys nifer o'i gerddi natur, yn enwedig "To the Virgins, to make much of Time", "Corinna's going a Maying", "Delight in Disorder", "To Live Merrily and to Trust to Good Verses", "How Roses came Red", ac "How Violets came Blue", mewn blodeugerddi'r 19g.[2] Yn y cyfnod 1810–1900, cyhoeddwyd mwy na 20 o argraffiadau unigryw o waith Herrick ym Mhrydain, gan gynnwys golygiadau i blant a chyhoeddiadau anrheg ar gyfer y Nadolig.[3] Un o'i edmygwyr blaenaf yn Oes Fictoria oedd Algernon Charles Swinburne, yr hwn a alwodd Herrick yn "y cyfansoddwr cerddi goreuaf – mor sicr â Shakespeare ydy'r dramodydd goreuaf – a anwyd erioed o hil y Saeson".[4] Yn y cyfnod hwn hefyd bu golwg arall, un wleidyddol, ar Herrick: hawliodd y Siartwyr taw un o weithiau "bardd y Bobl" oedd "To Daffodils".[2]

Yn nechrau'r 20g, pallodd ei statws ymhlith y beirniaid, er enghraifft F. R. Leavis, a oedd yn ffafrio barddoniaeth "gref" megis penillion Jonson a Donne. Ezra Pound oedd un o'r ychydig o fodernwyr i'w werthfawrogi. Ar y llaw arall, cafodd Herrick ei alw'n "is-fardd" (minor poet) gan T. S. Eliot.[5] Yn niwedd y 1960au a'r 1970au, dechreuodd ysgolheigion a beirniaid unwaith eto ddarllen Hesperides, nid am fod rhialtwch gwledig ei olygfeydd yn ffasiynol, ond oherwydd eu bod am ddadansoddi'r casgliad cyfan fel un gwaith llenyddol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Robert Herrick. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Awst 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 Leah S. Marcus, "Robert Herrick" yn The Cambridge Companion to English Poetry: Donne to Marvell, golygwyd gan Thomas N. Corns (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004), t. 171.
  3. Rebecca N. Mitchell, "Robert Herrick, Victorian Poet: Christina Rossetti, George Meredith, and the Victorian Recovery of Hesperides", Modern Philology 113:1 (2015), tt. 88–115.
  4. Algernon Charles Swinburne, "Preface" yn The Hesperides and Noble Numbers, golygwyd gan Alfred Pollard (Llundain: Lawrence & Bullen, 1898), cyfrol 1, t. xi. Dyfyniad gwreiddiol: "the greatest song-writer—as surely as Shakespeare is the greatest dramatist—ever born of English race".
  5. T. S. Eliot, "What Is Minor Poetry?", Sewanee Review 54 (1946), tt. 1-18.