Milwr o Gymro oedd oedd Robert James Bye VC (12 Rhagfyr 188923 Awst 1962). Derbyniodd Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig.

Robert James Bye
Ganwyd12 Rhagfyr 1889 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1962 Edit this on Wikidata
Market Warsop Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethmilwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Bye ym Maritime Street, Pontypridd ar 12 Rhagfyr 1889[1] yn fab i Mortimer Bye a Sarah Jane, ei wraig[2]. Ar 14 Hydref 1912 priododd Mable Annie Lloyd a bu iddynt bump o blant a chyn y Rhyfel Mawr roedd yn gweithio fel glöwr yng Nglofa'r Dyffryn ger Aberdâr.

Er fod ei waith fel glöwr yn golygu nad oedd rhaid iddo ymrestru â'r fyddin ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf munodd â'r Gwarchodlu Cymreig ar 3 Ebrill 1915. Erbyn mis Gorffennaf 1917 roedd wedi ei ddyrchafu i fod yn sarjant gyda Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig ac yn paratoi ar gyfer Trydedd Brwydr Ypres.

Dyfarniad y VC golygu

Ar 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:

No. 939 Sjt. Robert Bye, Welsh Guards (Penrhiwceiber, Glamorgan).

Am ddewrder o'r mwyaf. Dangosodd Sjt. Bye wroldeb hyd yr eithaf ac ymroddiad wrth ddyletswydd yn ystod ymosodiad ar safleoedd y gelyn. O weld fod yr ymosodiadau cyntaf yn cael eu rhwystro gan dau flocws y gelyn, penderfynodd ar ei liwt ei hun i redeg tuag at un ohnnynt a dinistrio'r gariswn. Ailymunodd â'i ddynion er mwyn ymosod ar yr ail nôd. Wedi i'r milwyr fynd ymlaen i ymosod ar y trydydd nôd cafodd parti ei orchymyn i glirio'r blocysau oedd wedi eu pasio. Gwirfoddolodd Sjt. Bye i arwain y parti gan gwblhau y nôd a chymryd sawl carcharor. Parhaodd i ymosod gan gyrraedd y trydydd nôd a chipio nifer o garchaorion eraill gan gynnig cymorth amhrisiadwy i'r milwyr oedd yn ymosod. Profodd ei allu rhyfeddol i achub y blaen trwy gydol yr ymosodiad.[3]

Mae ei Groes Fictoria yn cael ei harddangos ym mhencadlys catrodol y Gwarchodlu Cymreig yn Llundain.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf golygu

Symudodd Bye a'i deulu i Swydd Nottingham ar ôl y rhyfel i ail afael yn ei waith fel glöwr. Bu hefyd yn gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd fel rhingyll yng nghatrawd y Sherwood Foresters gan warchod carcharorion rhyfel nes i salwch (yn deillio o'i waith yn y pwll) ei orfodi i adael y fyddin. Yna, bu'n gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cartrefol ac fel cwnstabl dros dro yn yr heddlu. Bu farw yn Warsop Swydd Nottingham yn 72 oed.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Robert Bye: A heroic soldier". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-14. Cyrchwyd 2014-11-17. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 RG14/32275; Rhif 293
  3. London Gazette: (Supplement) no. 30272. p. 9260. 1917-9-4.
  4. Find a Grave Robert Bye adalwyd Tach 17 2014