Robert Jermain Thomas

cenhadwr ac arloesydd dan Gymdeithas Genhadol Llundain

Cenhadwr Cristnogol o Gymru oedd Robert Jermain Thomas (7 Medi 1840 – tua 31 Awst 1866).[1]

Robert Jermain Thomas
Ganwyd7 Medi 1840 Edit this on Wikidata
Rhaeadr Gwy Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1866 Edit this on Wikidata
Corea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
TadRobert Thomas Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Rhaeadr Gwy, Sir Faesyfed, lle'r oedd ei dad yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Astudiodd yn New College Llundain, coleg yr Annibynwyr. Fe'i penodwyd i Shanghai yn Tsieina gyda Chymdeithas Genhadol Llundain. Ordeiniwyd ar 4 Mehefin 1863, a phriododd Caroline Godfrey yn yr un flwyddyn. Hwyliodd y ddau ar 21 Gorffennaf 1863, gan gyrraedd Shanghai ym mis Rhagfyr. Bu farw Mrs Thomas ar 24 Mawrth 1864. Ymddiswyddodd o'r Gymdeithas ym mis Rhagfyr 1864 ond ailymunodd ym mis Ionawr 1866.

Tra'n genhadwr yn Tsieina, datblygodd Thomas ddyhead cryf i weithio ymhlith pobl Corea. Roedd Corea ynghau i dramorwyr ar y pryd am fod y llywodraeth yn ofni dylanwad oddi allan. Daeth nifer o Goreaid yn Gristnogion o dan weinidogaeth offeiriaid Catholig ar ddiwedd y 18g, ond lladdwyd 8,000 ohonynt gan y llywodraeth yn 1866.

Teithiodd Thomas i Gorea am y tro cyntaf yn 1865. Ef oedd yr ail genhadwr Protestannaidd i fynd i Gorea, hyd y gwyddom (y cyntaf oedd Karl Gutzlaff o'r Almaen, a deithiodd yno yn 1832 ac a rannodd Feiblau mewn Tsieinieg i Goreaid). Dysgodd Thomas cymaint ag y gallai am y bobl a'u hiaith yn ystod y deufis a hanner y bu yno, gan ddosbarthu pamffledi a Thestamentau Newydd mewn Tsieinieg am nad oeddynt ar gael mewn Corëeg.

Gofynnwyd i Thomas ymuno â llu y Llynges Ffrengig yn 1866 fel cyfieithydd er mwyn mynd i Gorea. Aeth y llu Ffrengig i Fietnam yn lle, ac felly cymerodd Thomas swydd fel cyfieithydd ar long fasnach Americanaidd, y General Sherman. Perswadiodd Thomas y capten i hwylio er mwyn sefydlu llwybr fasnach rhwng yr Unol Daleithiau a Corea, er bod masnach di-wahoddiad wedi'i wahardd. Cymhelliad personol Thomas oedd lledaenu'r efengyl yn Corea.

Hwyliodd y General Sherman ar 9 Awst 1866 ac fe'i gwelwyd gyntaf wrth aber Afon Taedong ar 16 Awst. Wrth i'r llong hwylio i fyny'r afon gyda nwyddau cotwm, tin a gwydr, taflai Thomas y pamffledi Cristnogol ar lan yr afon. Dywedir bod swyddogion Coreaidd wedi gorchymyn i'r cwch Americanaidd adael ar unwaith. Ar neu o gwmpas 25 Awst, herwgipiodd y criw Hyon-Ik Yi, swyddog llywodraeth Corea, a oedd yn gyfrifol am gyfathrebu gyda'r llong. Llwyddodd swyddog a oedd yn gyn-filwr, Chun-Gwon Park, i achub Yi a'i roi yn ôl yn ei swydd flaenorol. Fodd bynnag, yng nghanol yr ymrafael, bu farw dau is-swyddog Yi, Soon-Won Yoo a Chi-Young Park. Ar 31 Awst, taniodd criw'r General Sherman eu gynnau at ddinasyddion gerllaw, gan ladd 7 ac anafu 5. Roedd llywodraeth Corea a'r gymuned Gristnogol yn cytuno mai'r General Sherman oedd wedi dechrau'r gwrthdaro. Cyhoeddodd y Llywodraethwr Gyu-Su Park o dalaith Pyong-An y General Sherman yn elyn a gorchymyn ei filwyr i baratoi ar gyfer y frwydr.

Pan diriodd y General Sherman ger Pyongyang, gwelodd y Coreaid gyfle i ymosod. Llwyddodd y criw i'w gwrthsefyll am ddeudydd. Yn y pen draw, lawnsiodd y Coreaid cwch ar dân, a rhoddodd honno y General Sherman ar dân hefyd. O'r criw, saethwyd a lladdwyd 14 ohonynt (gan gynnwys un a oedd wedi'i saethu'n farw ddeuddydd ynghynt), llosgwyd pedwar i farwolaeth, a chafodd dau a neidiodd i'r lan eu curo i farwolaeth gan ddinasyddion. Thomas oedd un o'r rhain, yn ôl yr hanes.[2]

Ceir fersiynau eraill o hanes marwolaeth Thomas. Ymddangosodd un ohonynt yn erthygl Oh Mun-hwan yn "Christian News" ar 8 Rhagfyr 1926, yn adrodd bod Thomas wedi'i ladd gan berthnasau'r rhai a laddwyd gan griw'r General Sherman. Yn yr un erthygl, mae'r awdur yn dyfynnu o ddatganiad gan y Parchg Lee Jae Bong, gweinidog yn nhalairth y De (1000 o filltiroedd i ffwrdd). Roedd ganddo berthynas pell a oedd yn digwydd bod yn filwr a oedd yn bresennol yn ystod y digwyddiad gyda'r General Sherman. Roedd y cyn-filwr hwn yn honni bod un o'r criw a ddienyddiwyd lyfr coch a'i fod yn ymbil ar y swyddogion i'w gymryd. Casgliad Mr. Oh oedd mai Thomas oedd y dyn hwn. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yr adroddiad hwn wedi datblygu i ddweud bod Thomas bod wedi ceisio rhoi ei Feibl i'w ddiwenyddiwr a bod milwr wedi dweud wrth ei deulu yn ddiweddarach ei fod wedi lladd dyn da (o "Korea Mission Field," Medi 1927). Roedd eraill yn honni mai dienyddiwr Thomas oedd neb llai na Chun-Gwon Park, a oedd wedi achub swyddog y llywodraeth, Hyon-Ik Yi.

Mae adroddiad y swyddog Coreaidd o ddigwyddiad y General Sherman yn nodi yn eglur bod Thomas wedi'i ladd gan ddinasyddion, ac nid Park. Mewn fersiwn arall, roedd Thomas wedi neidio i'r lan gan gario Beibl, a'i fod wedi'i gynnig i'w ymosodwyr gan waeddi, "Iesu, Iesu!" mewn Corëeg. Dywed eraill bod Thomas yn chwifio sêl swyddogol Hyon-Ik Yi a oedd wedi'i gymryd oddi wrth pan gafodd ei herwgipio. Cafodd Hyon-Ik Yi ei ddiraddio yn ddiweddarach am golli sêl swyddogol.

Dywedir bod person Coreaidd lleol wedi defnyddio tudalennau Beibl Tsieinieg (a ddaeth o'r Beiblau a ddosbarthwyd gan Thomas) i bapuro waliau ei dŷ. Cafodd hyn ei ddarganfod gan y gymuned Gristnogol leol ar ddechrau'r 20g, a daeth pobl o bob man i ddarllen y geiriau ar ei waliau. Yn y pen draw, sefydlwyd eglwys yn yr ardal. Yn sicr, tyfodd dylanwad Thomas yn dilyn ei farwolaeth. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, roedd Pyongyang wedi troi'n ganolfan Gristnogol gref gyda chant o eglwysi.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "The Record of the Reverend R. Jermain Thomas, as found in the archives of the London Missionary Society"; adalwyd 28 Hydref 2019
  2. 2.0 2.1 Evans, Stephen (26 Rhagfyr 2016). "North Korea's Christian martyrs". Cyrchwyd 1 Hydref 2017.