Robert Jones, Rotherhithe

clerigwr ac awdur

Roedd Robert Jones (6 Ionawr, 180928 Mawrth, 1879) yn awdur ar lenyddiaeth Gymraeg ac offeiriad Eglwys Loegr Cymreig.[1]

Robert Jones, Rotherhithe
Ganwyd6 Ionawr 1809 Edit this on Wikidata
Llanfyllin Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1879 Edit this on Wikidata
Rotherhithe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Jones yn Llawr y Cwm, Llanfyllin, Sir Drefaldwyn ym 1809 (nid 1810 fel mae'r Bywgraffiadur a'r DNB yn honni) [2] yn blentyn i Robert Jones, beili a Jane ei wraig. Er ei fod wedi ymuno a'r Eglwys Anglicanaidd yn niweddarach cafodd ei fedyddio yng Nghapel Pentre, yr Annibynwyr, Llanfyllin ar 15 Ionawr 1809. Roedd yn gefnder i'r hynafiaethydd Thomas Griffiths Jones (Cyffin) [3]. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt a Choleg yr Iesu, Rhydychen, lle graddiodd BA ym 1837.

Gyrfa golygu

Cafodd Jones ei ordeinio'n ddiacon gan Esgob Llanelwy ar 1 Gorffennaf, 1837 a'i benodi yn giwrad Llaneurgain. Fe'i dyrchafwyd i urdd yr offeiriaid ar 5 Mai, 1838. Bu'n ciwrad Abermaw o 1840 i 1842. Ym 1842 cafodd ei benodi yn Ficer Eglwys yr Holl Saint, Rotherhithe, Llundain. Arhosodd yn Rotherhithe am weddill ei ddyddiau.[4]

Llenor a hynafiaethydd golygu

Tra'n giwrad yn y Bermo cyhoeddodd Jones lyfr o emynau Y Caniedydd, oedd yn cynnwys nifer o emynau cyfansoddodd ei hun. Bwriadwyd y llyfr at ddefnydd y gynulleidfa leol, ond fe'i defnyddiwyd yn helaeth, ar ôl ei farwolaeth, fel sail i lyfr emynau Cymraeg yr Eglwys Anglicanaidd yn ei gyfanrwydd, sef Emyniadur yr Eglwys yng Nghymru (1897).

Daeth ficerdy'r Rotherhithe yn fan cyfarfod pwysig i Gymry Llundain ac yn llety i feirdd a llenorion Cymreig oedd yn ymweld â'r ddinas.

Bu Jones yn chware rhan bwysig mewn nifer o ymgyrchoedd a mudiadau Cymraeg a Chymreig yn Llundain ac yng Nghymru. Roedd yn gefnogol iawn i'r ymgyrch i gael Prifysgol yng Nghymru [5] a'r ymgyrch i gael Llyfrgell Genedlaethol i Gymru. Roedd yn un o sylfaenwyr y trydydd ymgorfforiad o Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion, gan wasanaethu fel golygydd eu cylchgrawn Y Cymmrodor. Bu hefyd yn aelod o'r Cambrian Institute.

Daeth Jones yn gasglwr o hen lyfrau a llawysgrifau Cymraeg. Daeth ei lyfrgell o dros 2,000 o lyfrau yn eiddo Llyfrgell Ganolog Abertawe ar ôl ei farwolaeth.[6] Yn ogystal â phrynu llyfrau bu Jones yn ddefnyddiwr helaeth o ddarllenfa'r Amgueddfa Brydeinig lle fu'n pori eu casgliadau Cymraeg a Chymreig gan wneud nodiadau a chopïau ohonynt. Pan aeth y Tywysog Louis Lucien Bonaparte, nai'r Ymerawdwr Napoleone Buonaparte i'r Amgueddfa Brydeinig i holi am diwtor i ddysgu'r Gymraeg iddo cyflwynodd y ceidwad ef i Robert Jones. Daeth Jones a'r tywysog yn gyfeillion agos ac ym 1855 aeth Jones a'i wraig gyda'r tywysog ar ei daith o amgylch Cymru. Ysgrifennodd hanes y daith yn The Cambrian Journal ym 1856.[7]

Bu Jones yn gyfrifol am ail gyhoeddi llyfrau hynafiaethol Gymraeg gan gynnwys:

Teulu golygu

Priododd dwywaith. Does dim sicrwydd pwy oedd ei wraig gyntaf, ond bu iddynt o leiaf dau fab. Priododd ei ail wraig Eliza Lucrietia Mousley ym 1849 a bu iddynt un mab.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yn 70 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys yr Holl Saint Rotherhithe.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Jones yn y Bywgraffiadur
  2. Yr Archif Genedlaethol, Cofrestrau Anghydffurfiol, Capel Pentre (A) Llanfyllin. Cyf /RG/4/3472 Robert the son of Robert and Jane Jones of the town of Llanfyllin was born on Friday Jan-y 6 1809 and was baptised on Sunday the 15th of the same month at the independent chapel Llanfyllin by Revd Geo Lewis Llanuwchllyn
  3. ROBERT JONES, ROTHERHITHE 6 January 1809 28 March 1879 Cylchgrawn LlGC Cyf. 31, rh. 2, Gaeaf 1999
  4. Robert Jones yn y ODNB
  5. "THE WELSH UNIVERSITY - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1871-06-09. Cyrchwyd 2020-02-10.
  6. "THE LATE REV ROBERT JONES - The Cambrian". T. Jenkins. 1880-02-20. Cyrchwyd 2020-02-10.
  7. The Cambrian Journal, Alban Eilir - 1856; PRINCE LOUIS-LUCIEN BONAPARTE'S VISIT TO WALES IN THE AUTUMN OF LAST YEAR
  8. "THE LATE REV ROBERT JONES ROTHERHITHE - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1879-04-04. Cyrchwyd 2020-02-10.