Robert Thomas Jones

arweinydd Llafur

Roedd Robert Thomas (R.T.) Jones, (14 Hydref, 187415 Rhagfyr, 1940) yn chwarelwr, undebwr llafur ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Sir Gaernarfon rhwng 1922 a 1923.[1]

Robert Thomas Jones
Ganwyd14 Hydref 1874 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1940 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethundebwr llafur, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Jones ym Mlaenau Ffestiniog yn fab i David Jones, chwarelwr, ac Ellen (née Parry) ei wraig.

Cafodd addysg elfennol mewn ysgol gynradd ym Mlaenau gan ymadael a'r ysgol yn 13 mlwydd oed. Mae'n nodi yn ei gofnod yn Who's Who bod yr ysgol Sul a dosbarthiadau nos wedi chware rhan fawr yn ei addysg hefyd.[2]

Ni fu'n briod.

Undebwr golygu

Dechreuodd Jones i weithio yn y chwareli llechi yn 13 mlwydd oed. Bu'n aelod o Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Gwasanaethodd fel cadeirydd cyfrinfa Ffestiniog o'r undeb cyn cael ei benodi'n ysgrifennydd cyllid ym 1908 [3] ac yn ysgrifennydd cyffredinol ym 1909.[4] Ef oedd ysgrifennydd cyffredinol cyntaf yr undeb i fod yn chwarelwr wrth ei waith a'r cyntaf i'w cyflogi fel swyddog undeb llawn amser.

Ym 1910 cafodd ei benodi'n aelod o Gomisiwn Brenhinol a benodwyd i ymchwilio i iechyd a diogelwch pobl a gyflogir mewn mwyngloddiau a chwareli.[5] Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn ym 1914.[6]

O dan ei arweiniad mabwysiadwyd rhaglen gyffredin, "Siarter y Chwarelwyr", ym 1911, a gafodd ei derbyn yn derfynol gan y perchnogion ym 1918. Bu'n aelod o gyngor cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) rhwng 1921 a 1932, Cynhaliodd Jones drafodaethau uno hir gydag Ernest Bevin a arweiniodd at gyfuno Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru gyda Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ym 1923. Fodd bynnag, parhaodd yr undeb i ddefnyddio ei enw ei hun, a pharhaodd i gynnal llawer o'i fusnes mewn modd annibynnol. Cynhaliwyd bron i holl fusnes yr undeb yn y Gymraeg. Parhaodd Jones i fod yn ysgrifennydd cyffredinol yr undeb hyd iddo ymddeol ym 1933.[7]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Dylanwadwyd ar Jones gan sosialaeth y gweinidog lleol, Silyn Roberts. Gyda'i gilydd fe sefydlon nhw gangen o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP) yn ardal Ffestiniog.

Wedi marwolaeth William Jones, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Arfon ym 1915 cynigiwyd enw R T Jones i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer adain llafur y Blaid Ryddfrydol. Gwrthodwyd ystyried y cynnig oherwydd ei gysylltiad gyda'r ILP.[8] Dewiswyd Griffith Caradoc Rees fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol, ac oherwydd cytundeb rhwng y pleidiau i beidio â chystadlu isetholiadau yn ystod cyfnod Y Rhyfel Byd Cyntaf doedd yr ILP dim yn fodlon cefnogi Jones fel ymgeisydd chwaith.

Safodd fel ymgeisydd Llafur annibynnol yn etholaeth Sir Gaernarfon yn etholiad cyffredinol 1918 heb lwyddiant. Safodd eto yn yr un etholaeth yn etholiad cyffredinol 1922 fel ymgeisydd y Blaid Lafur gan gipio'r sedd. Collodd y sedd i'r Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1923. Safodd eto yn etholiadau 1924 a 1929 gan ddod yn ail ar y ddau achlysur.[9]

Gwasanaeth cyhoeddus golygu

Yn ogystal â'i waith fel undebwr bu Jones yn aelod o liaws o fyrddau cyhoeddus yng Nghymru.[1]. Gan gynnwys gwasanaethu fel:

  • Aelod o Bwyllgor Cyngor Dosbarth Trefol Blaenau Ffestiniog ar Reolwyr Ysgolion
  • Aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Drwyddedu (Cymru a Lloegr),
  • Is-reolydd Bwyd dros Ogledd Cymru ar gyfnod y Rhyfel byd Cyntaf [10]
  • Ysgrifennydd Ardal Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ar gyfer Ardal Gogledd Cymru, 1924–33;
  • Ynad Heddwch
  • Comisiynydd Traffig (Ardal y Gogledd-orllewin)
  • Llywodraethwr Prifysgol Cymru (Bangor)

Roedd hefyd yn aelod amlwg o Gyfrinfa Moelwyn o'r Seiri Rhyddion.[2]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Thomas, D., (1953). JONES, ROBERT THOMAS (1874 - 1940), arweinydd Llafur. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 14 Maw 2019
  2. 2.0 2.1 (2007, December 01). Jones, Robert Thomas, (died 15 Dec. 1940), JP; Traffic Commissioner (North Western Area) since 1931; General Secretary North Wales Quarrymen’s Union 1908–33. WHO'S WHO & WHO WAS WHO[dolen marw] adalwyd 14 Mawrth 2019
  3. "Blaenau Festiniog - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1908-04-03. Cyrchwyd 2019-03-14.
  4. "UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1909-02-04. Cyrchwyd 2019-03-14.
  5. "BLAENAU FESTINIOG - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1910-06-03. Cyrchwyd 2019-03-14.
  6. "YMCHWILIAD I FWYNFEYDD A CHWARELAU - Y Dinesydd Cymreig". s.t. 1914-07-08. Cyrchwyd 2019-03-14.
  7. Jones, R. (2004, September 23). Jones, Robert Thomas (1874–1940), trade unionist. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth. 2019
  8. "SEDD WAG ARFON - Y Dinesydd Cymreig". s.t. 1915-06-30. Cyrchwyd 2019-03-14.
  9. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  10. "CORNEL Y CHWARELWYR - Y Dinesydd Cymreig". s.t. 1918-04-17. Cyrchwyd 2019-03-14.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Edward Breese
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon
19221923
Olynydd:
Goronwy Owen