Dramodydd Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Rodolfo Usigli (17 Tachwedd 190518 Mehefin 1979).

Rodolfo Usigli
Ganwyd17 Tachwedd 1905 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico, Bucaramanga Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1979 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ddrama Yale Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, diplomydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Swyddambassador of Mexico to Norway Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, cymrodoriaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Ninas Mecsico yn fab i Eidalwr a Phwyles. Bu farw ei dad pan oedd Rodolfo yn fachgen, a fe gafodd ei fagu gan ei fam yn ystod cyfnod Chwyldro Mecsico (1910–20). Dioddefodd o nam ar ei olwg, a na lwyddodd i orffen ei addysg yn yr ysgol uwchradd.[1]

Er gwaethaf caledni ei fagwraeth, erbyn y 1940au mi oedd Usigli yn un o'r arloeswyr blaenaf ym myd theatr Mecsico. Mae ei ddramâu El gesticulador (ysgr. 1937, perff. 1947) a Corona de sombra (ysgr. 1943, perff. 1947) yn nodweddiadol o'i ymdrechion i foderneiddio'r theatr genedlaethol ac i fynegi hunaniaeth Fecsicanaidd yn seiliedig ar hanes a symbolau diwylliannol y wlad.[1]

Yn ogystal â'i ddramâu, ysgrifennodd Usigli nofel dditectif seicolegol o'r enw Ensayo de un crimen (1944), a gafodd ei haddasu'n ffilm gan Luis Buñuel yn 1955. Gweithiodd hefyd yn hanesydd llenyddol, academydd, a diplomydd. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 73 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Danny J. Anderson, "Usigli, Rodolfo (1905–1979)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach golygu

  • Peter Beardsell, Teatro para caníbales: Rodolfo Usigli y el teatro mexicano (Dinas Mecsico: Siglo Veintiuno Editores, 2002).
  • Guillermo Schmidhuber de la Mora, Apología de Rodolfo Usigli: las polaridades usiglianas (Guadalajara: Universidad de Guadalajara, 2005).