Roger Edwards

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a golygydd

Pregethwr, awdur a golygydd Cymreig oedd y Parchedig Roger Edwards (26 Ionawr 18119 Gorffennaf 1886), a aned yn y Bala ac a fagwyd yn ardal Dolgellau, Meirionnydd.

Roger Edwards
Ganwyd26 Ionawr 1811 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1886 Edit this on Wikidata
Man preswylYr Wyddgrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg y Bala Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganed Ionawr 26ain 1811 ym mlwyddyn dyngedfennol ymwahanu ei enwad yn derfynol oddi wrth Eglwys Loegr. Roedd yn fab i mab Roger ac Elizabeth Edwards. Cafodd ei addysgu yn Wrecsam a Lerpwl. Roedd ganddo archwaeth at lenyddiaeth Gymraeg yn ei flynyddoedd cynnar. Cyhoeddai Goleuad Cymru ysgrifau o'i eiddo, ac yntau ond yn ddeunaw oed. Dechreuodd bregethu ym 1831.

Bu'n byw yn yr Wyddgrug, Sir Fflint o 1835 ymlaen, am saith mlynedd o dan gronglwyd y blaenor a'r groser Angell Jones cyn ymbriodi a symud i dŷ arall yn Stryd Newydd, Yr Wyddgrug. Fe'i cymhellwyd i ddod i'r i'r dref gan yr argraffwr Evan Lloyd er mwyn golygu'r Newyddiadur Hanesyddol a fu hyd hynny o dan olygyddiaeth Owen Jones (Meudwy Môn). Newidiodd ei enw i Cronicl yr Oes a bu'n ei olygu hyd ei dranc ym 1839. Fe'i hordeiniwyd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymdeithasfa'r Bala ym 1842.

Ym 1841 priododd Eleanor Williams, Dolgellau. Bu iddynt chwech o blant. Daeth y mab hynaf, Ellis Edwards, yn brifathro Coleg y Bala; priododd un o'r merch, Annie, â Syr Henry Lewis, Bangor.

Gwaith golygu

Ym 1839 fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd Sasiwn y Gogledd o Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd (swydd y bu ynddi am y rhan fwyaf o weddill ei oes). Ym 1845, ac am yr ugain mlynedd dilynol, golygai y Traethodydd mewn undeb â Lewis Edwards. Ym 1846 etholwyd ef a John Roberts (Minimus), ei gyd aelod yn ddiweddarach, yng nghapel Bethesda, Yr Wyddgrug, i gyd-olygu Y Drysorfa, a buont wrthi hyd ddiwedd 1852. Wedi hynny a hyd ei waeledd olaf ym 1886, golygwyd y Drysorfa gan Roger Edwards ei hun.

Ynghyd â'i waith fel emynydd ('Pa le, pa fodd dechreuaf' ayyb), fe ddichon mai ei waith fel golygydd Y Drysorfa o 1847-1886, fel cyd-sylfaenydd a chyd-olygydd Y Traethodydd (gyda Lewis Edwards) hyd 1885 a golygydd Cronicl yr Oes sy'n ennill iddo ei le yn oriel enwogion Cymru. Fel golygydd Y Drysorfa roedd iddo rôl allweddol yn hyrwyddo gyrfa lenyddol Daniel Owen. Roedd Edwards eisoes wedi cyhoeddi dwystraeon cyfres o'i waith ei hun yn y Drysorfa gan herio unrhyw ragfarnau ymhlith y Methodistiaid yn gyffredinol yn erbyn y nofel fel "oferedd": pan drawyd Daniel Owen yn wael yn 1876 a gorfod rhoi'r gorau i bregethu fe'i hanogwyd gan Edwards i baratoi pregethau ar gyfer eu cyhoeddi; ar ôl hynny dechreuodd lunio darnau ffuglen. Yn y Drysorfa, fesul pennod bob mis, y cyhoeddwyd tair cyfrol gyntaf Daniel Owen yn wreiddiol, sef Offrymau Neilltuaeth, Y Dreflan a Hunangofiant Rhys Lewis. Yn ôl Isaac Foulkes, Roger Edwards oedd y gŵr a gafodd y dylanwad mwyaf ar Daniel Owen, yn llenyddol a chrefyddol

Roedd Roger Edwards yn cynrychioli agwedd fwy radicalaidd ar Fethodistiaeth, ac fe welid hynny yn arbennig yn y cylchgrawn Cronicl yr Oes. Enynnodd hynny ddicter rhai o'r tadau Methodistaidd traddodiadol. Roedd teimlad mor gryf yn ei erbyn ef a John Phyllips, Treffynnon, fel y bu'n rhaid i John Elias geidwadol, hyd yn oed, ymyrryd ar eu rhan. Gwnaeth lawer i baratoi'r ffordd ar gyfer y twf mewn radicaliaeth ryddfrydol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a welir yn oes a gwaith arweinwyr fel y cyhoeddwr Thomas Gee a Gwilym Hiraethog.

Cafodd gynnig symud i Fanceinion i fugeilio eglwysi Cymraeg ymhlith cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ym 1861, ond dewisodd aros yn yr Wyddgrug lle cafodd ei gydnabod yn fugail swyddogol ar gapel Bethesda, Yr Wyddgrug ym 1878, wedi oes gyfan o lafur bron yn yr eglwys honno. Mae Rhian Philips yn ei chyfrol ar hanes eglwys Bethesda yn amau'n gryf mai'r gwrthdrawiad yma â chymeriadau mwy traddodiadol ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd a barodd eu bod mor gyndyn o roi galwad ffurfiol iddo yn fugail arnynt. Er hynny, teg yw nodi mai tuedd cymharol newydd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd oedd cydnabod gweinidogion am fod yn fugeiliaid swyddogol ar yr adeg hon. Er hyn, dengys cyfrifon ariannol Capel Bethesda, yr Wyddgrug o'r cyfnod mai ef fydda'n cael y gydnabyddiaeth fwyaf am bregethu yno bob mis. Fel hyn y dywed John Thickens amdano: Roedd yn ŵr llygatgraff odiaeth; yn wleidydd eglwysig; yn gywir ei farn; ac, yn ei amser gorau, yn bregethwr grymus, er ei atal-dywedyd'.[1] Bu'n llywydd y Gymanfa Gyffredinol ym 1872 ac yn llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd am yr eildro ym mlwyddyn ei farw. Ac yntau ar ei wely angau fe dderbyniodd radd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Goleg Hamilton, Efrog Newydd, ond ni chafodd ystyried a'i derbyniai ai peidio. Roedd yn dad i'r Athro Ellis Edwards a fu'n Athro yng Ngholeg y Bala. Lluniodd Daniel Owen ysgrif goffa a cherdd goffa iddo. Dyma ddau bennill olaf 'Er cof am y Diweddar Barchedig Roger Edwards':

Ond Wyddgrug deimla'r gwagder mwya' gyd -
Gwagder na lenwir ond gan hiraeth prudd:
Fel trefwr, a gwleidyddwr yn dy ddydd.
Tydi a fu ein genau yn y byd!

Chwith yw bod heb y gwenau siriol, mad!
Ac heb y weddi dynai'r nef i lawr;
Ac heb y cynghor - heb y dagrau mawr!
Ac heb y Cyfaill pur! y Brawd! y Tad!

Llyfryddiaeth golygu

Gweithiau Roger Edwards golygu

  • Y Salmydd Cymreig (1840)
  • Caneuon ar Destynau Crefyddol a Moesol (1855)
  • "Y Tri Brawd a'u teuluoedd" (1866 - 1867) yn [Y Drysorfa], ac fel llyfryn ar wahân wedyn ac ar ddiwedd ei gofiant gan T.M.Jones
  • 'Reuben Gruffydd' (Medi 1867 - Rhagfyr 1867) yn [Y Drysorfa]
  • 'Evan Edmund a'i Gyfeillion', Y Drysorfa , 1872 ymlaen

Ffynonellau golygu

  • T. M. Jones, Cofiant y Parch. Roger Edwards (1908)
  • Daniel Owen, 'Diweddar Olygydd y Drysorfa', Y Drysorfa, Hydref 1886, 361-9
  • Daniel Owen, Er cof am y Diweddar Barchedig Roger Edwards (taflen maint A3) (1886)
  • Rh. Phillips, Y Dyfroedd Byw (1987)
  • J.E.Caerwyn Williams, 'Roger Edwards' yn Cylchgrawn Hanes y Methodistiaid Calfinaidd Cyf. 4
  • J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, Gol. Gomer M. Roberts
  • T.Hughes, "Pa le, Pa fodd Dechreuaf", Braslun o fywyd a gwaith Dr. Roger Edwards, Yr Wyddgrug" (1994)
  • G.T.Jones, Traethawd ymchwil M.A. Prifysgol Cymru Bangor, (anghyhoeddedig) (1944)

Cyfeiriadau golygu

  1. Yn ei lyfr 'Emynau a'u Hawduriaid', gol. Gomer M. Roberts 1961