Roger Williams (awdur)

Mae Roger Williams (ganwyd 1974) yn ddramodydd Cymreig [1] ac yn sgriptiwr sy'n gweithio yn y Saesneg a'r Gymraeg. Mae ei waith yn aml yn archwilio agweddau ar fywyd modern Cymru, megis lle ieithoedd lleiafrifol, cyflwr cymunedau diwydiannol sy'n dirywio a sîn hoyw Caerdydd.[2]

Roger Williams
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdramodydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yng Nghasnewydd, a chafodd ei fagu yng Nghaerfyrddin. Graddiodd ym 1995 o Brifysgol Warwick gyda gradd mewn Saesneg a Llenyddiaeth America.

Gwaith golygu

Theatr golygu

  • Surfing, Carmarthen Bay (1995)
  • Love in Aberdare (1997)
  • Gulp (1997)[1]
  • Calon Lân (1997)
  • Saturday Night Forever (1998)
  • Killing Kangaroos (1999)
  • Pop (2000)
  • Y Byd (A'i Brawd) (2004)
  • Me, a Giant (2005)
  • Mother Tongue (2005)
  • "Kapow!" (2006)
  • "Tir Sir Gâr" (2013)

Teledu golygu

Yn 2002, enwebwyd ei waith Tales from Pleasure Beach, a ddangoswyd ar BBC Two, ac a enwebwyd am Wobr BAFTA yn y categori Cyfres Ddrama Orau. Mae hefyd wedi ysgrifennu penodau o "Hollyoaks" (Sianel 4), "The Story of Tracy Beaker" (BBC), "The Bench" (BBC Wales), "Citizens!" (BBC Wales) a llawer o benodau o'r opera sebon dyddiol Pobol y Cwm (S4C). Yn 2006, daeth yn brif awdur cyfres ddrama newydd boblogaidd S4C "Caerdydd",[3] enillodd Bafta amdani yn 2011.[4]

Ffilm golygu

Yn 2012 sefydlodd y cwmni cynhyrchu Joio. Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd y ffilm Tir ar gyfer S4C. Addaswyd y ffilm o ddrama theatr wreiddiol Roger Williams "Tir Sir Gâr" ac enillodd wobr y Dramodydd Gorau Cymraeg yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014.[5]

Datblygodd y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd gyda'r cyfarwyddwr Lee Haven Jones ac fe sgriptiodd y ffilm a ryddhawyd yn 2021.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Steven Blandford (2007). Film, drama and the break-up of Britain. Intellect Books. t. 171. ISBN 978-1-84150-150-5. Cyrchwyd 24 December 2010. Typical of this was Gulp by a young Cardiff writer, Roger Williams: It was generally considered to be Cardiff's first professionally produced young, out gay play, referred to by the press as a 'cultural milestone'. ...
  2. "Parthian Books".
  3. Shipton, Martin (7 December 2010), "S4C 'has lack of hunger for great programming'", Wales Online, http://www.walesonline.co.uk/news/welsh-politics/welsh-politics-news/2010/12/07/s4c-has-lack-of-hunger-for-great-programming-91466-27779108/, adalwyd 24 December 2010
  4. British Academy Cymru Awards - Winners in 2011, 29 May 2011, http://www.bafta.org/wales/awards/2011-bafta-cymru-awards,1770,BA.html#jump220
  5. "Theatre Critics of Wales Awards 2014 - News and latest information on Theatre Dance and Performance in Wales - news, reviews, commentary, features and discussion".