Ronald Bell

gwleidydd Ceidwadol

Roedd Syr Ronald McMillan Bell (14 Ebrill 191427 Chwefror 1982) yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Gasnewydd, De Swydd Buckingham a Beaconsfield.

Ronald Bell
Ganwyd14 Ebrill 1914 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1982 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Bell yng Nghaerdydd yn fab ieuengaf John Bell, Glöwr, a Marion Alston McCallum ei wraig.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd , a Choleg Magdalen, Rhydychen, lle graddiodd BA ym 1936 ac MA ym 1941. Ym 1935, bu'n Ysgrifennydd a Thrysorydd Undeb Rhydychen, ac yn Llywydd Cymdeithas Geidwadol Prifysgol Rhydychen .

Ym 1954, priododd Elizabeth Audrey, merch hynaf Kenneth Gossell, MC, o Burwash, Sussex, a bu iddynt ddau fab (Andrew a Robert), a dwy ferch (Fiona a Lucinda). Bu farw'r Ledi Bell yn 2014.[1]

Gyrfa golygu

Fe'i galwyd i'r Bar yn Gray's Inn ym 1938 gan weithio fel bargyfreithiwr yn Llundain ac ar Gylchdaith Dde-Ddwyrain Lloegr. Fe wnaed yn Gwnsler y Frenhines ym 1966.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yn Adfyddin Gwirfoddolwyr y Llynges Frenhinol o 1939 i 1946 gan gael ei ddyrchafu'n Is-gyrnol.

Gyrfa wleidyddol golygu

Safodd Bell yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn isetholiad Caerffili, ym 1939. Safodd yn isetholiad Casnewydd ym Mis Mai 1945 gan gadw'r sedd i'r Ceidwadwyr ond collodd y sedd ddeufis yn ddiweddarach pan gipiwyd y sedd gan Peter Freeman, Llafur, yn Etholiad Cyffredinol 1945.

Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Paddington yn Llundain o 1947 i 1949. Yn etholiad Cyffredinol 1950 cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol De Swydd Buckingham gan dal ei afael yn y sedd hyd ei ddiddymu ar gyfer Etholiad Cyffredinol Chwefror, 1974; ym 1974 cafodd ei ethol fel yr aelod dros etholaeth newydd Beaconsfield gan wasanaethu hyd ei farwolaeth ym 1982.

Roedd Bell yn aelod cynnar o'r Monday Club grŵp ceidwadol oedd am i'r Blaid aros yn driw i'w gwreiddiau asgell dde. Roedd yn gwrthwynebu polisïau'r llywodraeth o roi rhyddid i drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd yn gwrthwynebu mewnfudo i wledydd Prydain ac yn credu bod y Deddf Cydraddoldeb Hiliol yn tarddu ar ryddid mynegiant ac ar hawl i gyflogwyr dewis pwy i gyflogi. Roedd yn cefnogi llywodraethau apartheid Rhodesia a De'r Affrig ac fe fu yn uchel ei feirniadaeth o'r mudiad gwrth apartheid a'r ymgyrch i rwystro cysylltiadau chwaraeon rhwng De'r Affrig a thimau o wledydd Prydain.[2]. Roedd yn gwrthwynebu pob ymgais i roi cyfartaledd i ferched gan ddatgan ar un achlysur bod merched yn inferior second-class citizens and should be treated as such[3]

Er gwaethaf ei aelodaeth o'r Monday Club doedd o ddim yn cefnogi pob achos adweithiol y clwb. Fe fu ymysg yr ASau Ceidwadol cyntaf i gefnogi Cyfreithloni perthnasau hoyw, ac fe fu un o'r rebeliaid Ceidwadol a phleidleisiodd yn groes i chwip ei blaid, o blaid ddiddymu'r gosb eithaf ym 1964.

Fe'i urddwyd yn farchog ym 1980.

Marwolaeth golygu

Bu farw Bell o drawiad ar y galon yn ei swyddfa yn Nhŷ’r Cyffredin wrth gael cyfathrach rywiol efo'i meistres. Safodd Tony Blair fel ymgeisydd Seneddol am y tro cyntaf yn yr isetholiad a gynhaliwyd i ganfod olynydd iddo.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. ‘BELL, Sir Ronald (McMillan)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [1], adalwyd 14 Awst 2015,
  2. Obituary 1 -- no title. (1982, Mar 01). The Guardian (1959-2003) Retrieved from http://search.proquest.com/docview/186310817?accountid=12799
  3. MP who rivalled powell. (1982, Mar 01). The Guardian (1959-2003) Retrieved from http://search.proquest.com/docview/186409487?accountid=12799
  4. Daily Mail, 3 Hydref 2004 The night of lust that gave us Tony [2] adalwyd 14 Awst 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Reginald George Clarry
Aelod Seneddol Casnewydd
19451945
Olynydd:
Peter Freeman
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Etholaeth newydd
Aelod Seneddol De Swydd Buckingham
19501974
Olynydd:
Diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Etholaeth newydd
Aelod Seneddol Beaconsfield
19741982
Olynydd:
Tim Smith