Roparz Hemon

awdur Llydewig

Llenor ac ysgolhaig Llydewig oedd Roparz Hemon (18 Tachwedd 190029 Mehefin 1978). Ei enw swyddogol oedd Louis Paul Némo.

Roparz Hemon
FfugenwPendaran Edit this on Wikidata
GanwydLouis Paul Némo Edit this on Wikidata
18 Tachwedd 1900 Edit this on Wikidata
Brest Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1978 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Addysgagrégation Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgeiriadurwr, Esperantydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Dublin Institute for Advanced Studies
  • Q3269010
  • Radio Rennes Bretagne Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAn Tri Boulomig Kalon Aour, Gwalarn Edit this on Wikidata
MamJulie Foricher Edit this on Wikidata

Ysgrifennodd nifer o eiriaduron, erthyglau, gramadegau, nofelau, cerddi a storïau byrion. Ef oedd sylfaenydd y cylchgrawn llenyddol Llydaweg Gwalarn, lle cyhoeddodd nifer o awduron ieuanc eu gweithiau cyntaf yn y 1920au a'r 1930au.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n cyfarwyddo rhaglenni Llydaweg ar Radio Roazhon Breizh, a ariannwyd gan y Propagandastaffel, gwasanaethau propaganda y Natsïaid. Yn y 40au heyd, bu'n golygu'r papur wythnosol Llydaweg Arvor. Ym mis Hydref 1942, cafodd ei ethol fel llywydd "Framm Keltiek Breizh" (Sefydliad Celtaidd Llydaw)" gant Leo Weisgerber, ieithydd Almaenig a oedd yn gweithio dros y Propagandastafell hefyd. Oherwydd hynny, a' erthyglau gwrth-semitig a fu yn y papur "Arvor", cafodd Hemon ei arestio ar gyhuddiad o gydweithredu â'r Natsïaid ar ôl y Rhyfel.

Ar ôl blwyddyn yn y carchar, cafodd gosb deng mlynedd o "dégradation nationale". Pendefynodd fynd i Iwerddon. Treuliodd ei fywyd mewn alltudiaeth yn Nulyn, yn gweithio yn y Dublin Institute for Advanced Studies. Nid aeth yn ôl i Lydaw erioed.

Gweithiau golygu

  • An Den a netra (Un homme de rien), drama 1927
  • Plac'hig vihan ar Mor, Kenta Mouladur Moulerez Brest - 1928, cyfieithiad o Hans Andersen.
  • Précis de grammaire bretonne. Brest, Moulerez Stread ar C'hastell, 1928
  • L'orthographe bretonne. Brest, Moulerez Stread ar C'hastell, 1929
  • Cours élémentaire de breton, Rennes, 1932, ISBN B0000DV9R9,
  • Kleier Eured Brest Gwalarn - 1934 ISBN 2-9511721-8-4
  • Grammaire bretonne, Suivie de la prononciation bretonne Brest Gwalarn - 1941,
  • An Aotrou Bimbochet e Breiz, Brest, Skridou Breizh, 1942,
  • Les mots du breton usuel classés d'après le sens, Editions de Bretagne, Brest, 1942, ISBN B0000DPLFZ,
  • Methode rapide de breton, 1942, ISBN B0000DUM0V
  • La langue bretonne et ses combats. La Baule, Edition de Bretagne, 1947
  • Alanig an tri roue, 1950 Skridoù Breizh; cyfieithwyd i'r Gymraeg fel Alan a'r tri brenin gan Zonia Bowen (1984.
  • Geriadur istorel ar brezhoneg (geiriadur hanesyddol y Llydaweg) Preder, ISBN 2901383017- 36 llyfryn, 1959 tan 1979
  • Alc'hwez ar brezhoneg eeun, ISBN 2868631266,
  • Yezhadur istorel ar brezhoneg, Hor Yezh, ISBN 2910699366,
  • Mari Vorgan, Al Liamm, 1962; cyfieithwyd i Ffrangeg fel "La Marie-Morgane", 1981, Les Presses d'aujourd'hui; cyfieithwyd i Gymraeg fel Morforwyn, Gwasg Prifysgol Cymru, Canolfan Astudiaethau Hanesyddol
  • A Historical Morphology and Syntax of Breton, Dublin Institute for Advanced Studies, 1975,
  • Christmas Hymns in the Vannes Dialect of Breton 1956,
  • Trois poèmes en moyen-breton traduits et annotés par R. Hémon. Tremenuan an ytron Maria - Pemzec leuenez Maris - Buhez mab den, Dublin Institute for Advanced Studies,School of Celtic Studies, Dulyn, 1962, ISBN 1855000636,
  • Ar Varn diwezhañ, Skol, 1998
  • Grammaire bretonne, Al Liamm, 1963, ISBN B0000DOXNQ,
  • Les Fragments de la Destruction de Jerusalem et des Amours du Vieillard (Textes en Moyen-breton), Traduits et annotés, Dublin Institute for Advanced Studies 1969,
  • Ho kervel a rin en noz ha marvailhoù all. Brest, Al Liamm, 1970,
  • Tangi Kerviler. Al Liamm, 1971, in-12, 169 p.
  • Cours élementaire de breton, 1975, ISBN B0000DRE3H,
  • Doctrin an Christenien, Dublin Institute for Advanced Studies,School of Celtic Studies, décembre 1977,
  • Troioù-kaer ar baron pouf, An Here, 1986, ISBN 2868430368,
  • Gaovan hag an den gwer, An Here, 1988, ISBN 286843052X,
  • Furnez ha faltazi, Hor Yezh, 1998, ISBN 2910699269,
  • An ti a drizek siminal, Hor Yezh, 1998, ISBN 2910699277,
  • Nenn Jani, Al Liamm, 1974 ; cyfieithiad i'r Ffrangeg, Coop Breizh, 1998, ISBN 2843460379,
  • Santez Dahud, Hor Yezh, 1998, ISBN 2910699293,
  • Eñvorennoù, Al Liamm, 1998, ISBN 2-7368-00-53-2
  • Barzhaz dianav ha barzhaz troet, Hor Yezh, 1997, ISBN 2-910699-21-8

Cysylltiadau Cymraeg golygu

Cafodd Hemon ei erlid wedi’r rhyfel, ymhlith a dirprwyaeth a ddaeth o Gymru roedd yr Archdderwydd John Dyfnallt Owen a oedd a diddordeb mawr yn Llydaw ac ef a rhoddodd loches yn ei gartref yn Sir Gâr i Roparz Hemon, oedd wedi gorfod dianc o Lydaw. Cyfieithwyd rhai o’i weithiau i’r Gymraeg, a chyfieithodd ef o'r Gymraeg hefyd.

  • ‘’Gwaith Ap Vychan’’ detholiad a droswyd i'r Llydaweg gan Roparz Hemon (Cylchgrawn Ar Bed Keltiek, Rhif 91, Gorffennaf 1966)
  • ‘’Alanig an tri roue’’, 1950 Skridoù Breizh; cyfieithwyd i'r Gymraeg fel Alan a'r tri brenin gan Zonia Bowen (1984)
  • ‘’Mari Vorgan’’, Al Liamm, 1962; cyfieithwyd i Gymraeg fel Morforwyn gan Rita Williams. Canolfan Astudiaethau Hanesyddol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995.

Ceir techneg tebyg i gynghanedd gydag odlau mewnol yn rhai o gerddi Hemon.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Karadog, Aneirin (2020). GYNGHANEDD HEDDIW, Y. [Place of publication not identified]: CYHOEDDIADAU BARDDAS. t. 93. ISBN 1-911584-39-1. OCLC 1141997937. Ha mirout a rez, melezour, / Kuzhet e donder da werenn, / Eus an dremmig kizidik flour / A sellas ennout, ur roudenn?