Rosemarie Frankland

actores a aned yn 1943

Cystadleuydd mewn pasiantau harddwch o Gymru a enillodd y teitl Miss World yn 1961 oedd Rosemarie Frankland (1 Chwefror 19432 Rhagfyr 2000).

Rosemarie Frankland
Ganwyd1 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 2000 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Marina del Rey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, model, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu Edit this on Wikidata
PriodWarren Entner Edit this on Wikidata

Ganwyd Frankland yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, yn 1943, ond symudodd ei theulu i Swydd Gaerhirfryn yn Lloegr pan oedd yn blentyn. Cymerodd ran mewn sawl pasiant harddwch gan ennill y teitl Miss Wales. Yn 1961, yn Llundain, hi oedd y ferch gyntaf o wledydd Prydain (fel Miss United Kingdom) i ennill y gystadleuaeth Miss World. Daeth yn ail yn y gystadleuaeth Miss Universe yn 1961 hefyd. Yr unig Gymraes arall i ennill y ddau deitl oedd Helen Morgan a fu hefyd yn Miss Wales a Miss United Kingdom, ond ymddeolodd hi fel Miss World bedwar diwrnod ar ôl cael ei choroni.

Aeth i fyw yn Los Angeles, UDA. Bu farw yn 57 oed yn Rhagfyr 2000 yn Marina del Rey, ger Los Angeles. Mae amgylchiadau ei marwolaeth yn aneglur, ond dioddefai o iselder meddwl trwy gydol ei hoes.[1] Ar ôl yr angladd, hedfanwyd ei lluwch yn ôl i Gymru a chawsant eu claddu ym Mynwent Rhosllannerchrugog yn Chwefror 2001.

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] BBC Wales: Rosemarie Frankland