Opera sebon ar S4C yw Rownd a Rownd, sy'n cael ei gyfeirio tuag at bobl ifanc.

Set ffilm ar gyfer Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy

Hanes golygu

Darlledwyd y bennod gyntaf ym mis Medi 1995 a chafodd ei chynhyrchu gan Ffilmiau'r Nant, ond nawr fe'i gynhyrchir gan gwmni Rondo.[1] Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Cafodd ei ddarlledu'n wreiddiol fel dwy bennod chwarter awr pob wythnos drwy'r flwyddyn. Darlledwyd 1,000fed bennod y gyfres ar nos Fawrth 14 Ionawr 2014.[2] Yn 2016 dathlodd y gyfres ei 21ain benblwydd.

Seren hiraf y gyfres oedd Dewi 'Pws' Morris a chwaraeodd rhan Islwyn Morgan, perchennog y siop bapur ers dechrau'r gyfres ym 1995; gadawodd y gyfres yn 2007.

Cefndir golygu

Roedd Rownd a Rownd yn wreiddiol yn seiliedig ar bobl ifanc a oedd yn gwneud rownd bapur; mae'r teitl y cyfres yn cyfeirio hefyd at gylchdro olwynion beic. Ers hynny mae wedi tyfu i gynnwys eu bywyd dydd i ddydd mewn ysgol a theulu.

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Rownd a Rownd Archifwyd 2018-09-10 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Rondo
  2. 1000! Erthygl ar wefan Rownd a Rownd/S4C
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato