Roedd Roy Fox Lichtenstein (27 Hydref 192329 Medi 1997) yn arlunydd Americanaidd. Yn y 1960au, gydag Andy Warhol, Jasper Johns, a James Rosenquist, fe ddaeth yn un o brif enwau'r mudiad celfyddyd bop.[1] Wrth ddefnyddio stribed comig a’r byd hysbysebu fel ysbrydoliaeth, roedd ei waith yn finiog a manwl, yn ddogfennu y gymdeithas o'i amgylch gyda hiwmor, parodi ac eironi.[2][3]

Roy Lichtenstein
FfugenwLichtenstein, Roy Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Hydref 1923 Edit this on Wikidata
Manhattan, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 1997 Edit this on Wikidata
Manhattan, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ohio State University
  • Urdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd
  • Prifysgol Ohio
  • Dwight School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, academydd, cynllunydd llwyfan, lithograffydd, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gwneuthurwr printiau, arlunydd graffig, drafftsmon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amGirl with Ball, Girl with Hair Ribbon, Takka Takka, Look Mickey, Blam, Engagement Ring, Ten Dollar Bill, Electric Cord, I Can See the Whole Room...and There's Nobody in It!, Times Square Mural Edit this on Wikidata
Arddullbywyd llonydd Edit this on Wikidata
Mudiadcelf bop Edit this on Wikidata
PriodDorothy Lichtenstein, Isabel Sarisky Edit this on Wikidata
PlantMitchell Lichtenstein Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Rhufain, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, Y Medal Celf Cenedlaethol Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd yn Efrog Newydd i deulu Iddewig dosbarth canol, roedd ei dad yn werthwr tai.[4] Raddiodd o Brifysgol Ohio ym 1949, roedd ei waith cyntaf yn arddull Mynegiadaeth haniaethol (Abstract expressionism) yn un o'r mudiadau celfyddydol mwyaf ddylanwadol yn yr Unol Daleithiau ar y pryd gydag enwogrwydd artistiaid fel Jackson Pollock a Mark Rothko.[4]

Ar ddiwedd y 1950au fe ddechreuodd arbrofi gyda delweddau oddi ar bapur lapio gwm cnoi a delweddau cowbois y Gorllewin Gwyllt gan yr arlunydd Frederic Remington.

Celfyddyd bop golygu

 

O 1961 ymlaen, fe ganolbwyntiodd ar gynhyrchu darluniau yn seiliedig ar gartwnau, stribedi comig a hysbysebion poblogaidd – a alwyd ymhen amser yn gelfyddyd bop. Fe chwyddodd y delweddau i lenwi cynfasau mawrion gan beintio amlinellau du gydag ochrau miniog a’u llenwi gyda lliwiau llachar. Un o nodweddion Lichtenstein oedd ei ddefnydd o ddotiau mawr i gyfleu'r broses argraffu 'hanner tôn', ond pob un wedi'i beintio â llaw gyda chymorth stensil.

Ym 1961 arddangoswyd ei waith yn oriel enwog Leo Castelli, Efrog Newydd ac fe ddaeth Lichtenstein i sylw'r byd celf. Y flwyddyn ganlynol fe gynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf i artist unigol yn yr oriel ac fe werthwyd pob un darlun cyn yr agoriad.[4] Pan arddangoswyd yn gyntaf, fe heriodd rhai beirniad wreiddioldeb waith Lichtenstein, gan ddweud ei fod yn 'di-chwaeth' ac yn 'wag'. Gofynnodd bennawd mewn un erthygl yng nghylchgrawn Life os oes Lichtenstein yr 'arlunydd gwaethaf yn America?'[5]

Ar 15 Mai 2013 fe werthwyd Woman with flowered hat yn Christie's Efrog Newydd am $56.1 miliwn.[6] Un o ddarluniau enwocaf Lichtenstein yw Whaam!, 1963 sydd heddiw i weld yn Oriel y Tate Modern yn Llundain. Mae'r darlun steil cartŵn yn dangos awyren rhyfel yn saethu roced tuag at awyren arall, gyda ffrwydrad coch a melyn a'r geiriau "Whaam!". Mae bocs gyda'r geiriau "I pressed the fire control... and ahead of me rockets blazed through the sky...". Mae'r llun yn 'triptych' (dros dri chynfas), 1.7 x 4.0 m.

Dechreuodd Lichtenstein arbrofi gyda cherfluniau yn tua 1964 gan gyd weithio gyda cheramigwr mae cerfluniau mawr ganddo i'w weld yng nghanol sawl dinas yn cynnwys Barcelona.[7] Nes ymlaen yn y 60au symudodd i ffwrdd o waith yn seiliedig ar stribedi cartwn yn cynhyrchu cyfres yn barodïau o waith meistri fel Cézanne, Mondrian, Vincent van Gogh a Picasso cyn cyfres o strôc frwsh cartwnaidd.[8]

Enwogrwydd a dylanwad golygu

Mae dylanwad ei waith i’w weld yn eang ar ddylunio graffeg a hysbysebion cyfoes, gyda chopiau o'i steil yn ymddangos trwy'r byd ar gyrsiau T ffasiynol a chloriau recordiau. Cydnabyddir Whaam! a Drowning Girl fel gwaith mwyaf adnabyddus Lichtenstein,[9][10][11] gyda Oh, Jeff...I Love You, Too...But... yn drydydd.[12] Ystyrir Drowning Girl, Whaam! a Look Mickey ei waith mwyaf dylanwadol.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. Arnason, H., History of Modern Art: Painting, Sculpture, Architecture, New York: Harry N. Abrams, Inc. 1968.
  2. Coplans 1972, Interviews, pp. 55, 30, 31
  3. (Saesneg) Obituary: Roy Lichtenstein. The Daily Telegraph (1 Hydref 1997). Adalwyd ar 20 Chwefror 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 Bell, Clare. "The Roy Lichtenstein Foundation – Chronology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-06. Cyrchwyd November 12, 2007.
  5. Vogel, Carol (April 5, 2012). "A New Traveling Show of Lichtenstein Works". New York Times.
  6. Vogel, Carol (May 15, 2013). "Christie's Contemporary Art Auction Sets Record at $495 Million". The New York Times. Cyrchwyd May 18, 2013.
  7. Lucy Davies (November 17, 2008), Roy Lichtenstein: a new dimension in art The Daily Telegraph.
  8. Alloway 1983, t. 37
  9. "Roy Lichtenstein: Biography of American Pop Artist, Comic-Strip-style Painter". Encyclopedia of Art. Cyrchwyd 2013-06-05.
  10. Cronin, Brian. Why Does Batman Carry Shark Repellent?: And Other Amazing Comic Book Trivia!. Penguin Books. Cyrchwyd 2013-06-06.
  11. Collett-White, Mike (2013-02-18). "Lichtenstein show in UK goes beyond cartoon classics". Chicago Tribune. Cyrchwyd 2013-06-08.
  12. Kirkova, Deni (2013-02-19). "Pop goes the Tate! Iconic works of Roy Lichtenstein brought together for exciting new exhibition at the Tate Modern". Daily Mail. Cyrchwyd 2013-06-07.
  13. Hoang, Li-mei (2012-09-21). "Pop art pioneer Lichtenstein in Tate Modern retrospective". Chicago Tribune. Cyrchwyd 2013-06-08.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: