Runavík

tref ar ynys Eysturoy ar Ynysoedd Ffaröe

Pentref cymharol drefol yw Runavík (Daneg: Runevig), Ynysoedd Ffaröe. Dyma brif dref Bwrdeistref Runavík hefyd. Saif ar hanner deheuol ynys Eysturoy.

Runavík
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth584 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1916 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Ísafjörður, Hjørring Municipality, Uummannaq, Egilsstaðir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladYnysoedd Ffaröe Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau62.1094°N 6.7192°W Edit this on Wikidata
Cod postFO 620 Edit this on Wikidata
Map

Sefydlu golygu

Enwir y fwrdeistref o'r un enw, sy'n ffurfio cytref ranbarthol, ar ei ôl: yr ardal anheddu 10 cilometr o hyd ar lan ddwyreiniol y fjord Skálafjørður. Sefydlwyd y lle ym 1916, ond ni chafodd ei enw tan 1938.

Porthladd golygu

 
y brif stryd, Heiđavegur
 
Parc a hen felin ddŵr

Fe'i sefydlwyd ym 1916, ac mae gan Runavík borthladd pwysig, a ddefnyddiwyd yn bennaf gan gychod pysgota ond sydd bellach hefyd yn ganolfan gyflenwi allweddol ar gyfer diwydiant olew Môr y Gogledd yn ogystal â phorthladd traws-gludo ar gyfer cludo nwyddau i ac o Ewrop.[1] Datblygwyd yr harbwr ddiwedd y 1990au [2] a bellach gall ddarparu ar gyfer llongau mordeithio.

Trafnidiaeth golygu

Ar hyn o bryd mae cysylltiad bws â Tórshavn o fore Llun i fore Gwener a chysylltiad o Tórshavn â Rúnavík yn y prynhawn.[3]

Ar hyn o bryd mae twnnel llong danfor 11 km o hyd yn cael ei adeiladu o Rúnavík i Hvítanes ger Tórshavn.[4]

Eysturoyartunnilin golygu

Mae prosiect seilwaith enfawr wedi'i osod i adeiladu twnnel tan-fôr 11 km o hyd rhwng Runavík a'r brifddinas, Tórshavn erbyn 2019,[5] a thrwy hynny leihau amseroedd teithio i'r ddinas yn sylweddol.[6][7] Amcangyfrifir bod costau adeiladu oddeutu 1 biliwn Krone Daneg (tua £120m).[8] Yn 2014 cytunodd holl bleidiau gwleidyddol y Løgting, senedd Ynysoedd Ffaröe, ar sut a phryd i adeiladu'r Eysturoyartunnilin a'r Sandoyartunnilin. Dechreuodd y driliau yn 2016 ynghylch Eysturoyartunnilin. Dechreuodd y gwaith ar Sandoyartunnilin yn 2019. Y cam cyntaf yn y prosiectau oedd llenwi platfform o dir yn y môr yn Saltnes ger Runavík ar gyfer twnnel Eysturoy.[8][9]

Chwaraeon golygu

 
Cychod NSÍ y clwb rhwyfo (melyn). Ment yn rhwyfo eu cwch mwyaf, Eysturoyingur, sy'n dal 10 dyn, i Jóansøka (Skt. Hans) yn Vágur

Y tîm pêl-droed lleol yw NSÍ Runavík sy'n chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Runavík. Bu iddynt enill Uwch Gynghrair Ynysoedd Faroe unwaith, a hynny yn 2007. Maent hefyd wedi chwarae Y Barri mewn gêm Ewropeaidd yn 2020.

Yn ogystal â'r clwb pêl-droed, ceir clwb rhwyfo, Róðrarfelagið NSÍ, sydd â chychod mewn sawl maint ac yn cymryd rhan yn y cystadlaethau rhwyfo cystadleuol (kaproning yn Daneg) o amgylch Ynysoedd Ffaröe bob haf.

Bob yn ail flwyddyn, trefnir digwyddiad chwaraeon neu ŵyl haf yn Runavík, o'r enw Eystanstevna, lle mae'r ymgiprys kaproning yn rhan o'r digwyddiad. Mae rasys rhwygo môr yn arbennig o boblogaidd yn yr Ynysoedd a cheir sawl cystadleuaeth.[10]

Ceir hefyd clwb pêl-law, Tjaldur, a chlwb gymnasteg Støkk, a sefydlwyd ym 1966. Adeiladodd bwrdeistref Runavík gampfa newydd, a agorodd yn 2014 sydd wedi arwain at wella perfformiad aelodau Støkk.

Gefeilldrefi golygu

Me Runavík wedi ei gefeillio â sawl gefeilldref a hynny'n adlewyrchu perthynas agos sydd rhwng Ynysoedd Ffaröe a rhannau eraill o Deyrnas Denmarc:

Cyfeiriadau golygu

  1. "Atlantic Supply Base". Runavíkar Kommuna. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2011. Cyrchwyd 5 January 2011.
  2. Hart's E&P. Hart Publications. 1999.
  3. Nodyn:Internetquelle
  4. Nodyn:Internetquelle
  5. "Eysturoyartunnilin verður liðugur í 2019" (yn Faroese). Sjóvar Municipality. 23 February 2016. Cyrchwyd 31 May 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "Maritime & Related Optimism at Port of Runavík". Faroes Business Report 2010. 25 April 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-07. Cyrchwyd 5 January 2011.
  7. "Tunnel development group". Skalafjardartunnilin.fo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2011. Cyrchwyd 5 January 2011.
  8. 8.0 8.1 kvf.fo. Tunlarnir verða lidnir í 2021
  9. "Aktuelt.fo, Tunnilin skal upp bæði á Strondum og í Runavík". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-09. Cyrchwyd 2020-08-18.
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-28. Cyrchwyd 2020-08-18.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynysoedd Ffaröe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.