Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Ruyton-XI-Towns[1] (hynny yw, Ruyton Eleven Towns; IPA: /ˈraɪtən ɪˈlɛvən taʊnz/).[2] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Ruyton-XI-Towns
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.7935°N 2.899°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012266 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ393221 Edit this on Wikidata
Cod postSY4 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,379.[3]

Cafodd y pentref ei enw anarferol yn y 12g pan adeiladwyd castell yn y Mers, a daeth yn faenor i un ar ddeg trefgordd leol. Mae'r rhifolion Rhufeinig am "un ar ddeg" wedi'u gynnwys yn yr enw. Mae rhai o'r un ar ddeg trefgordd hynafol, sydd wedi'u lleoli i'r gogledd a'r gorllewin o Ruyton, yn dal i oroesi fel pentrefannau heddiw; er mai dim ond casgliad o adeiladau fferm yw rhai, fel Coton. Yr un ar ddeg oedd Ruyton, Coton, Shotatton, Shelvock, Eardiston ac Wykey, sy'n aros yn y plwyf; a Felton, Haughton, Rednal, Sutton a Tedsmore, sydd bellach ym mhlwyf West Felton.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr
  • Gerddi Tŷ Brownhill
  • Packwood Haugh (ysgol)
  • Y Groes

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 10 Ebrill 2021
  2. BBC Pronouncing Dictionary of British Names (Oxford, 1971)
  3. City Population; adalwyd 10 Ebrill 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato