Rwdolff y carw trwyn-goch

Carw gyda thrwyn coch sy'n goleuo ydy Rwdolff y carw trwyn-goch. Yn aml, cyfeirir ato fel nawfed carw Siôn Corn, a phan gaiff ei ddarlunio, ef yw'r prif garw sy'n tynnu sled Siôn Corn ar noswyl Nadolig. Mae ei drwyn yn goleuo i'r fath raddau fel ei fod yn gallu arwain gweddill y tîm o geirw trwy dywydd garw'r Gaeaf.

Rwdolff

Ymddangosodd Rwdolff am y tro cyntaf mewn llyfryn gan Robert L. May ym 1939 a gafodd ei gyhoeddi gan Montgomery Ward.[1][2]

Mae'r stori'n eiddo i The Rudolph Company, L.P. ac mae wedi cael ei haddasu droeon gan gynnwys cân boblogaidd, rhaglen deledu, a ffilm. Er nad yw'r stori a'r gân yn y parth cyhoeddus, mae Rwdolff bellach yn rhan o chwedloniaeth y Nadolig.

Cyfeiriadau golygu