Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar oedd Rws Kyiv (o'r enw Rwseg diweddar Ки́евская Русь; enwau gwreiddiol: Hen Slafoneg y Dwyrain:Роусь (Rusĭ) neu роусьскаѧ землѧ (rusĭskaę zemlę) sef "Gwlad y Rws", Hen Norseg: Garðaríki). Ffurfiodd y wladwriaeth tua diwedd y 9g, gan barhau tan iddi gael ei chwalu gan oresgyniadau'r Mongoliaid-Tatariaid yn ail chwarter y 13g. Dinas Kyiv oedd canol y wladwriaeth. Gwelodd cyfnod Rws Kyiv gyflwyniad Cristnogaeth i'r ardal gan Vladimir I yn 988.

Rws Ciefaidd
роусьскаѧ землѧ
rusĭskaę zemlę
  • Gwladwriaeth unedol
    (882-1054)
  • Cymdaethas llac tywysogaethau
    (1054-1240)
882–1240

Darn arian gyda arfbais Tywysog Yaroslaf y Doeth

Location of Cief
Map yn dangos maintioli Rws Kyiv tua 1000.
Prifddinas Kyiv
Ieithoedd Hen Slafoneg Dwyreiniol
Crefydd Yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd

Paganiaeth

Llywodraeth Brenhiniaeth absoliwt
Uchel Tywysog Oleg Y Doeth (cyntaf)
Michael Chernihiv (olaf)
Hanes
 -  Sefydlwyd 882
 -  Diddymwyd 1240
Succeeded by
Gweriniaeth Novgorod
Tywysogaeth Folhynia
Tywysogaeth Pereyaslafl
Tywysogaeth Polatsk
Tywysogaeth Ryazan
Tywysogaeth Chernihiv
Tywysogaeth Smolensk
Tywysogaeth Vladimir-Suzdal
Tywysogaeth Halych
Tywysogaeth Turaŭ
Ymerodraeth Mongol
Heddiw'n rhan o

Mae enw Rws yn tarddu o enw'r llwyth Llychlynnaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar y tiroedd Slafaidd dwyreiniol yn ail hanner y 9g.

Mae hanesyddion yn tueddu heddiw i gyfeirio at Rws yn hytrach na Rwsia yn y cyfnod cynnar er mwyn pwysleisio bod y wladwriaeth ganoloesol gynnar yn rhagflaenu tair cenedl fodern, Rwsia, Wcráin a Belarws, yn hytrach na Rwsia yn unig, ac hefyd am fod craidd y wladwriaeth wedi'i leoli mewn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Wcráin.