Rygbi Caerdydd

Tîm rygbi'r undeb o Gymru

Tîm rygbi sy'n chwarae yn y Gynghrair Geltaidd, y Pencampwriaeth Rygbi Unedig (a'r Cwpan Eingl-Gymreig gynt) yw Rygbi Caerdydd. Hyd at 2021, enw'r tîm oedd Gleision Caerdydd.[6]

Rygbi Caerdydd
Delwedd:Cardiff Rugby logo.png
UndebUndeb Rygbi Cymru
Llysenw/auBlue and Blacks
Gleision
Sefydlwyd2003; 21 blynedd yn ôl (2003) fel Gleision Caerdydd
2021; 3 blynedd yn ôl (2021) fel Rygbi Caerdydd
LleoliadCaerdydd, Cymru
Maes/yddParc yr Arfau (Nifer fwyaf: 12,125)
CadeiryddAlun Jones[1]
Prif W.Richard Holland[1]
LlywyddPeter Thomas CBE[1]
Cyfarwyddwr RygbiMatt Sherratt[2]
CaptenJosh Turnbull
Mwyaf o gapiauTaufa'ao Filise (255) [3]
Sgôr mwyafBen Blair (1078) [4]
Mwyaf o geisiadauTom James (60) [5]
Cynghrair/auPencampwriaeth Rygbi Unedig
2021–223ydd, Tarian Cymru
(14eg ar y cyfan)
Lliwiau cartref
Gwefan swyddogol
cardiffrugby.wales

Rhanbarthau Rygbi Cymru

Rygbi Caerdydd
Caerdydd
Y Scarlets
Llanelli
Y Gweilch
Abertawe
Castell-
Nedd
Y Dreigiau
Casnewydd


Hanes y Rhanbarth golygu

Mae Rygbi Caerdydd yn un o'r bum rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Nhw hefyd oedd un o'r ddau ranbarth nad oedd rhaid iddynt uno â chlwb arall pan ddaeth y rhanbarthau i fodolaeth yng Nghymru ym myd rygbi'r undeb.

Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bum rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system debyg yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Affrica. Roedd hwn yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, ac roedd llawer o'r cefnogwyr yn gwrthwynebu'r newidiadau. Gleision Caerdydd oedd y rhanbarth gyntaf i benderfynu ar enw. Lansiwyd y rhanbarth ar 6 Mehefin 2003 yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd. Gorffenodd y Gleision yn y 6ed safle yn y Gynghrair Geltaidd yn eu tymor cyntaf - y rhanbarth o Gymru a wnaeth waethaf.

Yn wreiddiol, dim ond dinas Caerdydd a Bro Morgannwg roedd y Gleision yn ei gynrychioli. Pan ddaeth rhanbarth y Rhyfelwyr Celtaidd i ben yn 2004 ar ôl un tymor, ehangwyd dalgylch y Gleision i gynrychioli Morgannwg gyfan a rhan o Bowys.

Ar ddechrau trydydd tymor y Gleision, nid oedd pethau'n ymddangos fel petaen nhw'n gwella, gyda'r tîm yn methu cyrraedd ail rownd Cwpan Heineken. Yn ystod y tymor, ymunodd Jonah Lomu gyda'r Gleision, ac er nad oedd mor gyflym na mor gryf ag oedd pan fu'n chwarae yng Nghwpan y Byd, ddeg mlynedd yn ddiweddarach, daeth llawer o gefnogwyr i'w weld. Yn ystod ail hanner y tymor, dechreuodd y rhanbarth gael canlyniadau da yn y Gynghrair Geltaidd, a nhw oedd y rhanbarth gryfaf o Gymru pan orffennon nhw yn y 4ydd safle.

Cartref golygu

Mae Rygbi Caerdydd yn chwarae ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd, drws nesaf i Stadiwm y Mileniwm. Mae'r fynedfa i Barc yr Arfau ar Stryd Westgate.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Board & Management". Cardiff Rugby.
  2. "Rygbi Caerdydd yn penodi Matt Sherratt yn brif hyfforddwr". Golwg360. 2023-08-03. Cyrchwyd 2023-08-03.
  3. "Cardiff Blues". cardiffblues.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2019. Cyrchwyd 10 January 2019.
  4. www.uprisevsi.co.uk, upriseVSI. "Ben Blair". upriseVSI.
  5. www.uprisevsi.co.uk, upriseVSI. "Tom James". upriseVSI.
  6. "Introducing... Cardiff Rugby" (yn Saesneg). Rygbi Caerdydd. 1 Mawrth 2021. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2022.