Gwirod a wneir o gynnyrch siwgr yw rym, rỳm,[1] rhym, rwm, neu rhwm.[2]

Rym
Enghraifft o'r canlynoldiod feddwol Edit this on Wikidata
MathGwirod Edit this on Wikidata
DeunyddSaccharum officinarum Edit this on Wikidata
Gwlady Caribî Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 g Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Potel a gwydraid o rym o Jamaica

Tri cham sydd i'r broses o wneud rym: eplesu'r siwgr, distyllu'r gwaddodion eplesedig, ac aeddfedu. Gwneir y mwyafrif o rymiau o driagl, sy'n cynnwys cymaint â 5 y cant siwgr. Sgîl-gynnyrch o'r broses gynhyrchu siwgr yw triagl, y gwaddod sydd ar ôl wrth grisialu siwgr o sudd y gansen. Lle bo diffyg diwydiant siwgr, defnyddir sudd y gansen siwgr yn hytrach na thriagl. Distyllir y triagl neu'r sudd eplesedig i gynhyrchu rym, ac mae'r ddiod yn cadw mwy o flas ei ddeunydd crai na'r mwyafrif o wirodydd eraill.[3] Hylif di-liw yw'r ddiod ddistyll naturiol, ond fe'i droir yn wahanol arlliwiau o frown drwy ychwanegu caramel a'i gadw mewn casgenni pren.[4] Mae ganddi gynnwys alcohol o 35–60%.[5] Gwneir gwirod eilradd o'r enw taffia o driagl neu waddodion siwgr amhur, ond ni ystyrir y ddiod hon yn wir rym. Pennir blas y rym gan y math o furum a ddefnyddir i eplesu, y dull distyllu, amgylchiadau'r broses aeddfedu, a'r rysáit gymysgu.[3]

Cynhyrchir rym mewn nifer o wledydd trofannol, yn bennaf yn y Caribî, gan gynnwys Ciwba, Jamaica, Barbados, Trinidad a Thobago, a Puerto Rico, ond hefyd Unol Daleithiau America, Brasil, Madagasgar, ac Indonesia. Rhennir yn rymiau cryf neu dywyll, sy'n ddiod gadarn; a rhymiau ysgafn neu wyn, a chanddynt flas sych. Daw rymiau ysgafn o ynysoedd Sbaeneg y Caribî, megis Ciwba a Puerto Rico, ac wrth deithio i'r de mae'r rym yn dywyllach ei lliw ac yn fwy cadarn ei flas. Jamaica sydd yn meddu ar yr enw gorau am wneud rym tywyll. Modd arall o ddosbarthu rymiau yw'r tri prif gategori: Ciwba, Jamaica, ac India'r Dwyrain (hynny yw, Indonesia); a mathau sy'n tarddu o wledydd eraill, gan gynnwys aguardiente (Sbaen, Portiwgal, a De America), cachaca (Brasil), gwirod y gansen (De Affrica), a rym Demerara (Gaiana).[5]

Yfir rym ar ei ben ei hun yn y gwledydd sy'n ei gynhyrchu. Fe'i ddefnyddir mewn diodydd cymysg mewn ardaloedd eraill: rhoddir rym ysgafn gan amlaf mewn coctels yr haf megis y daiquiri a'r Cuba libre, tra bo diodydd hir, er enghraifft y Rum Collins, yn cynnwys rym tywyll. Yn hanesyddol cafodd rym Americanaidd ei gymysgu gyda thriagl strapddu a'i alw'n blackstrap, neu ei gymysgu gyda seidr i wneud diod stonewall.[3] Gwneir diodydd poeth o rym tywyll, megis grog, sy'n boblogaidd mewn gwledydd oer megis Prydain.[4] Cynhwysir mewn sawsiau melys ac ambell pwdin, er enghraifft teisen rym, a hefyd ei ddefnyddio i flasu tybaco.[3]

Hanes golygu

Daw o India'r Gorllewin, a cheir y cofnod cynharaf o'r ddiod ym 1650. Roedd rym yn un o brif nwyddau'r fasnach drionglog rhwng yr Hen Fyd a'r Byd Newydd: cafodd caethweision Affricanaidd eu cyfnewid am siwgr a thriagl yn India'r Gorllewin; troid y cynhyrchion siwgr yn rym yn Lloegr Newydd; a chafodd y rym ei cyfnewid â'r Affricanwyr am ragor o gaethweision. Derbynodd morwyr y Llynges Frenhinol ddogn o rym o'r 18g hyd 1970.[3] Rym yw hoff ddiod y ddelwedd ystrydebol o fôr-ladron y Caribî.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [rum].
  2.  rym. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Mai 2015.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Saesneg) rum. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mehefin 2016.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) rum. The Columbia Encyclopedia. Encyclopedia.com (2016). Adalwyd ar 28 Mehefin 2016.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) David A. Bender (2005). rum. A Dictionary of Food and Nutrition. Encyclopedia.com. Adalwyd ar 28 Mehefin 2016.

Darllen pellach golygu

  • Richard Foss, Rum: A Global History (Llundain: Reaktion, 2012).
  • Matt Murphy, Rum: A Distilled History of Colonial Australia (Sydney: HarperCollins, 2021).
  • Ian Williams, Rum: A Social and Sociable History of the Real Spirit of 1776 (Efrog Newydd: Nation, 2005).