Carthamus tinctorius
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Carthamus
Rhywogaeth: C. tinctorius
Enw deuenwol
Carthamus tinctorius
L. [1]
Carthamus tinctorius
Cynhyrchiad Safflwr, bydeang
Carthamus tinctorius

Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Safflwr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Carthamus tinctorius a'r enw Saesneg yw Safflower. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cochlys.

Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.

Caiff ei dyfu'n fasnachol am ei olew a wesgir o'i had. Mae'r planhigyn ei hun rhwng 30–150 cm o uchdergyda bloyn melyn, oren neu goch. Mae tua 5 o flodau ar bob cangen a cheir 15 - 20 hedyn ym mhob pen.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: