Sahelanthropus tchadensis

Sahelanthropus
"Toumaï"
Amrediad amseryddol: Mïosen Hwyr, 7-6.2 Miliwn o fl. CP
Copi o benglog Sahelanthropus tchadensis(Toumaï)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Homininae
Llwyth: Hominini
Genws: Sahelanthropus
Brunet et al., 2002[1]
Rhywogaeth: S. tchadensis
Enw deuenwol
Sahelanthropus tchadensis
Brunet et al., 2002[1]

Rhywogaeth a ddifodwyd ac sy'n perthyn i deulu'r homininae yw Sahelanthropus tchadensis. Dyddiwyd y ffosiliau ohoni i tua 7 miliwn o flynyddoed cyn y presennol (CP) a chred paleoanthropolegwyr ei bod yn perthyn i Orrorin) a ddyddiwyd i'r un cyfnod sef yr epoc Mïosen. Mae'r cyfnod hwn yn agos iawn i'r amser hwnnw pan ymwahanodd bodau dynol a'r Tsimpansî oddi wrth ei gilydd.

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd o fodloaeth Sahelanthropus tchadensis mewn gwirionedd: ceir un ffosil o benglog a lysenwyd yn Toumaï ("Gobaith o Fywyd" yn iaith bodorion, sef yr iaith Daza yn Tsiad, canolbarth Affrica) a llond llaw o esgyrn llai.

Fossiliau golygu

Lleoliad y darganfyddiad
Map mwy manwl
 
Adluniad o S. tchadensis gan y cerflunydd Élisabeth Daynès.

Mae'r dystiolaeth yn cynnwys un benglog a elwir yn Toumaï, 5 darn o ên 'dynol' ac ychydig o ddannedd. Mae'r craniwm, lle gorweddai'r ymennydd rhwng 320 cm³ a 380 cm³ (o ran ei gyfaint, ac yn debyg iawn, o ran maint i graniwm y Tsimpansî, a thipyn go lew yn llai na chyfaint bod dynol, sef 1350 cm³.

Ceir cryn wahaniaeth hefyd rhwng dannedd, talcen a strwythur yr wyneb S. tchadensis a Homo sapiens. Mae'r wyneb yn fwy fflat, mae bwa'r dannedd ar ffurf siap-U gyda'r ysgithrddannedd yn llai, y foramen magnum yn wynebu'r blaen a thalcen trwm. Mae'n amlwg hefyd fod y benglog wedi newid ei siap dos amser wrth ffosileiddio.

Mae'n eitha tebygol fod Sahelanthropus tchadensis wedi cerdded ar ei dwy goes,[2] ond nid yw hyn yn sicr. Ar ddiwedd y 2000au canfyddwyd asgwrn clun hominid yn yr un lleoliad a'r benglog, ond hyd yma (2017) nid yw'r adroddiad archaeolegol wedi'i gyhoeddi.[3]

Perthynas golygu

Nid oes consensws pa un a ydy Sahelanthropus yn un o hynafiaid cyffredin bodau dynol a'r Tsimpansî ynteu a ydyw (fel a gredwyd yn wreiddiol) yn un o hynafiaid bodau dynol ond nid y Tsimpansî. Os yr ail yna, mae'n rhaid wedyn ailystyried statws Australopithecus. Posibilrwydd arall yw bod Sahelanthropus yn perthyn o bell i fodau dynol a tsimpansîaid ond nid yn un o'u hynafiaid cyffredin. Awgrymodd Brigitte Senut a Martin Pickford, darganfyddwyr Orrorin tugenensis, fod nodweddion S. tchadensis yn debyg iawn i broto-gorila benywaidd. Pe bai hyn yn gywir, nid yw Sahelanthropus ddim mymryn llai gwerthfawr a phwysig oherwydd dim ond llond llaw o hynafiaid tsimpansîaid a gorilas sydd wedi'u darganfod ar gyfandir Affrica a Sahelanthropus fyddai hynafiad hynaf y ddau, sy'n ei wneud yn ddarganfyddiad pwysig beth bynnag fo canlyniad yr ymchwil archaeolegol.[4][5]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Brunet, M.; Guy, F.; Pilbeam, D.; Mackaye, H.T.; Likius, A.; Ahounta, D.; Beauvilain, A.; Blondel, C. et al. (2002). "A new hominid from the Upper Miocene of Chad, Central Africa" (PDF). Nature 418 (6894): 145–151. doi:10.1038/nature00879. PMID 12110880. http://www.nature.com/nature/journal/v418/n6894/pdf/nature00879.pdf.
  2. Staff (August 14, 2016). "What Does It Mean To Be Human? - Walking Upright". Smithsonian Institution. Cyrchwyd August 14, 2016.
  3. "Sahelanthropus: The femur of Toumaï?"
  4. Guy F., Lieberman D. E., Pilbeam D., Ponce de Leon M. S., Likius A., Mackaye H. T., Vignaud P., Zollikofer C. P. E. and Brunet M., (27 December 2005). "Morphological affinities of the Sahelanthropus tchadensis (Late Miocene hominid from Chad) cranium" PNAS, 102 (52) : 18836–18841.
  5. Wolpoff, M. H.; Hawks, J.; Senut, B.; Pickford, M.; Ahern, J. (2006). "An Ape or the Ape : Is the Toumaï Cranium TM 266 a Hominid?" (PDF). PaleoAnthropology 2006: 36–50. http://www.paleoanthro.org/journal/content/PA20060036.pdf.