Sam Waterston

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn g Nghaergrawnt yn 1940

Mae Samuel Atkinson "Sam" Waterston (ganed 15 Tachwedd 1940) yn actor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Americanaidd. Fe'i adnabyddir am ei rôl fel Sydney Schanberg yn The Killing Fields (1984), ac am serennu fel Jack McCoy yn y gyfres deledu NBC Law & Order (1994-2010). Mae wedi derbyn sawl enwebiad am wobrau Golden Globe, Screen Actors Guild, BAFTA ac Emmy, ac y mae wedi serennu mewn dros wyth-deg o gynhyrchiadau ffilm a theledu yn ystod ei yrfa hanner-can mlynedd.[1]

Sam Waterston
GanwydSamuel Atkinson Waterston Edit this on Wikidata
15 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor llais Edit this on Wikidata
TadGeorge Chychele Waterston Edit this on Wikidata
MamAlice Tucker Atkinson Edit this on Wikidata
PriodLynn Louisa Woodruff, Barbara Rutledge Johns Edit this on Wikidata
PlantKatherine Waterston, Elisabeth Waterston, James Waterston, Graham Waterston Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Derbyniodd Waterston seren ar y Hollywood Walk of Fame yn 2010, a fe'i gynhwyswyd yn yr American Theatre Hall of Fame yn 2012.

Mae'r actores Katherine Waterston yn ferch iddo.

Gyrfa golygu

Theatr golygu

Mae Waterston wedi'i hyfforddi'n glasurol ac wedi ymddangos ar y llwyfan sawl gwaith, gan gynnwys ei rôl fel Benedick yng nghynhyrchiad Jospeh Papp o ddrama William Shakespeare Much Ado About Nothing, yn ogystal â'r rôl deitl yn Hamlet. Mae'n parhau gyda gwaith theatr fyw yn ystod yr haf hyd heddiw, yn actio mewn llefydd megis Theatr Long Wharf a Theatr y Yale Repertory yn New Haven.[2][3] Ar hyn o bryd y mae'n ymddangos fel Propsero mewn cynhyrchiad Shakespeare in the Park o The Tempest a gyfarwyddir gan Michael Greif.[4]

Ffilmiau golygu

Gwnaeth Waterston ei ddebut ffilm yn The Plastic Dome of Norma Jean yn 1965, a daeth yn amlwg ar ôl ymddangos yn Fitzwilly yn 1967. Serennodd fel Tom mewn addasiad ffilm deledu 1973 o The Glass Menagerie gan Tennessee Williams, yn ymddangos wrth ochr Katherine Hepburn. Daeth yn fwy enwog ar ôl ymddangos cyferbyn Jeff Bridges yn y comedi gorllewinol Rancho Deluxe yn 1975. Mae ei ffilmiau eraill yn cynnwys Savages (1972), The Great Gatsby (1974), Journey Into Fear (1975), Capricorn One (1978), Heaven's Gate, Hopscotch (1980) a The Killing Fields (1984, fe'i enwebwyd am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau). Yn 1985, cyd-serennodd ffilm deledu olaf Robert Preston gyda Mary Tyler yn Finnegan Begin Again. Hefyd gyda Moore, chwaraeodd Waterston y rôl deitl yn Lincoln (1988), addasiad ffilm deledu o'r nofel "Lincoln" (1984) gan Gore Vidal. Rolau eraill yn cynnwys Assault at West Point gyda Samuel L. Jackson, Mindwalk (1990), a Serial Mom (1994). Mae Waterston wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau Woody Allen, gan gynnwys Interiors (1978), Hannah and Her Sisters (1986), September (1987) a Crimes and Misdemeanors (1989). Mae wedi derbyn chwe enwebiad Gwobr Emmy, yn ogystal ag ennill Golden Globe a Gwobr Screen Actors Guild.

Teledu golygu

Mae rolau teledu Waterston yn cynnwys D.A. Forrest Bedford yn I'll Fly Away, ac enillodd Wobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Cyfres Drama yn 1993. Serennodd hefyd yn y gyfres Amazing Stories mewn segment o'r enw "Mirror Mirror". Yn 1994, ymddangosodd fel yr Arlywydd William Foster, wrth ochr Forest Whittaker a Dana Delany, yn y ffilm deledu The Enemy Within. Yn 1994, ymddangosodd Waterston am y tro cyntaf fel Jack McCoy yn y bumed gyfres o'r rhaglen deledu Law & Order. Chwaraeodd y rôl tan ddiwedd y gyres yn 2010, yn ogystal ag ymddangos mewn cyfresi eraill o fewn masnachfraint Law & Order. Pan ganslwyd y gyfres, yr oedd Waterston wedi actio ynddi am 16 mlynedd, gyda S. Epatha Merkerson yn unig yn ymddangos mewn mwy o benodau nag ef.[5][6] Oherwydd llwyddiant y gyres a leolwyd yn Efrog Newydd, enwyd Waterston a'i gydweithiwr Jerry Orbach fel "Living Landmarks" gan y New York Landmarks Conservancy.[7] Dychwelodd Waterston i deledu yn 2012 fel Charlie Skinner yn y gyfres HBO The Newsroom, gan Aaron Sorkin.[8] Mae hefyd wedi ymddangos gyda Martin Sheen, Jane Fonda a Lily Tomlin yn y gyfres Netflix Grace and Frankie.

Cyfeiriadau golygu