Samarra

dinas yn Irac

Dinas yn Irac yw Sāmarrā (Arabeg: سامَرّاء‎). Saif ar lan ddwyreiniol afon Tigris yn nhalaith Salah ad-Din, 125 km (78 milltir) i'r gogledd o ddinas Baghdad, yng nghanolbarth y wlad. Fe'i hystyrir yn ddinas sanctaidd gan Foslemiaid Shia. Yn 2003, roedd tua 348,700 o bobl yn nyw yno. Yn 2007, cyhoeddodd UNESCO Samarra yn Safle Treftadaeth y Byd.

Samarra
Mosg Mawr Samarra
Mathsafle archaeolegol, dinas fawr Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Spotless Mind1988-سامراء.wav, LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-سامراء.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth140,400 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSaladin Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Arwynebedd150.58 km², 15,058 ha, 31,414 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr80 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.1959°N 43.88568°E Edit this on Wikidata
Cod post34010 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Erthygl am y ddinas yn Irac yw hon. Am y ddinas yn Rwsia gweler Samara. Gweler hefyd Samara (gwahaniaethu).

Hanes golygu

Mae Samarra yn hen iawn. Ceir olion o bobl y Dywilliant Samarraidd sy'n dyddio o'r Chalcolithig (tua 5500–4800 CC) yn y rhan yma o ardal Mesopotamia. Cyfeirir at ddinas Sur-marrati yn cael ei hailsefydku gan y brenin Sennacherib yn 690 CC.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, Samarra oedd prifddinas Califfiaeth yr Abassiaid. Symudodd y Califf Al-Mu'tasim ei lys yno yn 836. Codwyd Mosg Mawr Samarra gan ei olynydd. Ganwyd y bardd Arabeg clasurol Abdullah ibn al-Mu'tazz yn Samarra yn 861.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.