Samuel von Pufendorf

Cyfreithegwr ac hanesydd Almaenig oedd Samuel Freiherr von Pufendorf (8 Ionawr 163213 Hydref 1694)[1] sydd yn nodedig am ei gyfiawnhad dros y ddeddf naturiol a'i gyfraniadau cynnar at ddamcaniaeth y gyfraith ryngwladol.

Samuel von Pufendorf
Ganwyd8 Ionawr 1632 Edit this on Wikidata
Dorfchemnitz Edit this on Wikidata
Bu farw26 Hydref 1694 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEtholaeth Sacsoni, Sweden Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithegwr, athronydd, hanesydd, academydd, economegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1669, 1686, 1759 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amOn the Duty of Man and Citizen According to Natural Law Edit this on Wikidata

Ganed Samuel Pufendorf yn Dorfchemnitz, ger Thalheim, yn Etholyddiaeth Sacsoni, un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dylanwadwyd arno yn gryf gan weithiau Thomas Hobbes a Hugo Grotius. Dadleuai Pufendorf bod cyfraith y cenhedloedd (ius gentium) yn gangen o'r ddeddf naturiol, ac nid cyfundrefn gyfreithiol trwy ordinhad y ddynolryw. Pwysleisiai hawl yr unigolyn i gydraddoldeb a rhyddid, a honnai taw heddwch yw cyflwr naturiol y byd. Cefnogai oruchafiaeth y wladwriaeth dros yr eglwys mewn cylchoedd seciwlar y gymdeithas, a chafodd y farn honno ddylanwad fawr ar gydberthynas yr eglwys a'r wladwriaeth yn yr Almaen yn y 18g. Ei brif draethodau cyfreithiol yw Elementa jurisprudentiae universalis (1661), De jure naturae et gentium (1672), a De habitu religionis Christianae ad vitam civilem (1687).

Addysgodd Pufendorf gyfreitheg ym mhrifysgolion Heidelberg o 1661 i 1668 ac yn Lund o 1668 i 1677. Ei brif waith ar bwnc hanes yw De statu imperii Germanici (1667). Fe'i benodwyd yn hanesydd brenhinol yn llysoedd Stockholm a Berlin yn niwedd ei oes. Rhoddwyd teitl barwn (Freiherr) iddo ym 1694, ychydig fisoedd cyn ei farw ym Merlin yn 62 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Samuel, baron von Pufendorf. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Medi 2020.