Saturnin

Esgob Toulouse

Un o'r "Apostolion a Ddanfonwyd at y Galiaid" oedd Saturninus (neu Saturnin) a wnaed yn sant fwy na thebyg gan y Pab Fabian rhwng 236 a 250.

Sant Saturnin
Merthyrdod Sant Saturnin, o ddogfen o'r 14c
Apostol at y Galiaid
Esgob a Merthyr
Ganwyd3c O.C.
Patras, Gwlad Groeg
Bu farwc. 257 O.C.
Toulouse, Gâl (Ffrainc heddiw)
Mawrygwyd ynYr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
Prif gysegrBasilique St-Sernin, Toulouse
GwyliauNovember 29
Symbol/auMeitr esgob (math o gap), esgob yn cael ei lusgo gan darw
NawddsantToulouse, Ffrainc
Noder mai erthygl am yr Apostol a ddanfonwyd at y Galiaid yw hon; am yr erthygl am y sant a roddodd ei enw i ddau bentref o'r enw 'Llansadwrn' gweler Sant Sadwrn.

Danfonodd Sant Fabian saith esgob o Rufain i geisio Cristioneiddio trigolion Gâl, sef y rhan orllewinol o Ewrop lle trigai'r Celtiaid. Danfonwyd y seintiau Gatien i Tours, Trophimus i Arles, Pawl i Narbonne, Saturnin i Toulouse, Denis i Paris, Austromoine i Clermont, a Sant Martial i Limoges. Dethlir ei ddydd gŵyl gan Gristnogion ar y 29 Tachwedd. Cymysgir ef yn aml gyda Sant Sadwrn a sefydlodd ddwy eglwys: Llansadwrn (Sir Gaerfyrddin) a Llansadwrn (Ynys Môn).

Enw golygu

Adnabyddir Saturnin hefyd gyda'r enw Lladin 'Saturninus'; Occitaneg: Sarnin, Ffrangeg: Sernin, Catalaneg: Sadurní, Galisieg: Sadurninho, Portiwgaleg: Saturnino, Sadurninho, Basgeg: Satordi, Saturdi, Zernin, ac yn y Sbaeneg, galwyd ef yn Saturnino, Serenín, Cernín.

Cefndir golygu

Ceir y cofnod cyntaf i Saturnius gael ei wneud yn Esgob Tolosa (Toulouse) - y cyntaf o'i fath - gan Gregory o Tours (c. 538 – 594) pan gyfeirir at ddogfen gynharach a gollwyd, sef "Gweithredoedd Saturnus".[1] Nododd y ddogfen hon ei linach lle dywedir ei fod yn fab i Aegeus, Brenin yr Achaea, a Cassandra ferch Ptolemi, sef Brenin Ninefeh. Dywedir hefyd iddo fyw yn y ganrif gyntaf, yn un o 72 disgybl Crist a dywedir iddo fod yn bresennol yn y Swper Olaf. Dylid derbyn llawer o hyn gyda phinsied fawr o halen, wrth gwrs. Tyfodd chwedloniaeth hefyd amdano; mae un chwedl yn mynnu i Sant Pedr ei wneud yn esgob.[2] ac mai ei gyfeillion oedd Papulus, Saturninus a Honestus fel disgybl iddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dégert, Antoine. "St. Saturninus." The Catholic Encyclopedia. Vol. 13. Efrog Newydd: Robert Appleton Company, 1912. 14 Awst 2014
  2. "Lives of the Saints, 29 Tachwedd; Saint Saturninus". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-31. Cyrchwyd 2016-11-29.