Awdur Groeg-Ffrengig-Eidalaidd Maximiani oedd Savitri Devi Mukherji (enw bedydd: Maximiani Portas; 30 Medi 1905 - 22 Hydref 1982).

Savitri Devi
FfugenwSavitri Devi Edit this on Wikidata
GanwydMaximine Julia Portaz Edit this on Wikidata
30 Medi 1905 Edit this on Wikidata
2nd arrondissement of Lyon Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1982 Edit this on Wikidata
Sible Hedingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Lyon
  • Prifysgol Lyon
  • Prifysgol Lyon Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, ymgyrchydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
PriodAsit Krishna Mukherji Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://savitridevi.org/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Lyon ar 30 Medi 1905; bu farw yn Sible Hedingham ac fe'i claddwyd yn Wisconsin o drawiad ar y galon. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Visva-Bharati a Phrifysgol Lyon (1896-1969).[1][2][3][4][5][6] Bu'n briod i Asit Krishna Mukherji.

Roedd yn lladmerydd dros ecoleg a Natsïaeth, a gwasanaethodd y gwledydd hynny a oedd yn ochri gyda'r Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, drwy ysbïo ar rymoedd y Cynghreiriaid yn India.[7][8][9][10]

Ysgrifennodd am fudiadau hawliau anifeiliaid a pharhaodd yn aelod blaenllaw (ond cudd) o'r Natsïaid yn ystod y 1960au.[8][10][11]

Ysgrifennodd Devi faniffesto hawliau anifeiliaid Uchelgyhuddiad Dyn, neu The Impeachment of Man[10] ym 1959 ac am y tir canol rhwng Hindŵaeth a Natsïaeth[12], gan syntheseiddio'r ddau, a chyhoeddi bod Adolf Hitler wedi'i anfon gan ragluniaeth, yn debyg iawn i avatar o'r Duw Hindwaidd Vishnu. Credodd bod Hitler yn aberth dros ddynoliaeth a fyddai'n arwain at ddiwedd y Kali Yuga a ysgogwyd gan y rhai yr oedd hi'n teimlo oedd pwerau drygioni: yr Iddewon.[8][10]

Mae ei hysgrifau wedi dylanwadu ar neo-Natsïaeth ac ocwltiaeth y Natsïaid. Ymhlith syniadau Savitri Devi roedd dosbarthiadau "dynion uwchlaw amser", "dynion mewn amser", a "dynion yn erbyn amser".[13]

Magwraeth golygu

Ganed Maximiani Julia Portas ym 1905 yn Lyon.[10] Roedd yn ferch i Maxim Portas, dinesydd Ffrengig o dras Roegaidd ac Eidalaidd a'i mam, a oedd yn fenyw o Loegr, Julia Portas (g. Nash). Ffurfiodd ei barn wleidyddol yn gynnar. O'i phlentyndod a thrwy gydol ei hoes, roedd hi'n eiriolwr angerddol dros hawliau anifeiliaid. Roedd ei chysylltiadau gwleidyddol cynharaf â chenedlaetholdeb Gwlad Groeg.[9]

Coleg golygu

Astudiodd Portas athroniaeth a chemeg, gan ennill dwy radd meistr a Ph.D. mewn athroniaeth o Brifysgol Lyon. Teithiodd i Wlad Groeg gan astudio'r hen adfeilion. Yma, daeth yn gyfarwydd â darganfyddiad Heinrich Schliemann o swasticas yn Anatolia. Daeth i'r casgliad bod yr Hen Roegiaid o darddiad Aryan.

Yr awdur golygu

Ei dau lyfr cyntaf oedd ei thraethodau doethuriaeth: Essai-critique sur Théophile Kaïris (Traethawd Beirniadol ar Theophilos Kairis) (Lyon: Maximine Portas, 1935) a La simplicité mathématique (Symlrwydd mathemategol) (Lyon: Maximine Portas, 1935). Rywbryd rhwng 1929 a 1934, hi oedd tiwtor Ffrangeg yr athronydd Cornelius Castoriadis (1922–1997), fel y datgelodd mewn cyfweliad radio gyda Katherine von Bülow (ar y rhaglen "Diwylliant Ffrainc" 20/4/1996).[14]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
  6. Enw genedigol: https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
  7. Nicholas Goodrick-Clarke (1998). Hitler's Priestess: Savitri Devi, the Hindu-Aryan Myth, and Neo-Nazism. NY: New York University Press, ISBN 0-8147-3110-4
  8. 8.0 8.1 8.2 "Hitler's Priestess: Savitri Devi, the Hindu-Aryan Myth, and Neo-Nazism", Nicholas Goodrick-Clarke. NYU Press, 2000. ISBN 0-8147-3111-2, ISBN 978-0-8147-3111-6. tt. 6, 42–44, 104, 130–148, 179, 222
  9. 9.0 9.1 Goodrick-Clarke, Nicholas (2003). Black Sun: Aryan Cults, Esoteric Nazism, and the Politics of Identity. New York University Press. t. 88. ISBN 0-8147-3155-4. OCLC 47665567.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 "The new encyclopedia of the occult", John Michael Greer. Llewellyn Worldwide, 2003. ISBN 1-56718-336-0, ISBN 978-1-56718-336-8. tud. 130-131
  11. "Politics and the Occult: The Left, the Right, and the Radically Unseen", Gary Lachman. Quest Books, 2008. ISBN 0-8356-0857-3, ISBN 978-0-8356-0857-2. p. 257
  12. Nodyn:Cite article
  13. "Gods of the blood: the pagan revival and white separatism", Mattias Gardell. Duke University Press, 2003. ISBN 0-8223-3071-7, ISBN 978-0-8223-3071-4. t. 183
  14. "Savitri Devi: The Woman Against Time" by R. G. Fowler. Mourning the Ancient. Accessed 30 Medi 2011.