Enw ar yr amrywiaeth o liwiau sy'n bresennol mewn rhai ffynonellau golau ydy sbectrwm (lluosog: sbectra). Mae'r sbectrwm yn dod yn amlwg pan wahanir lliwiau (amleddau)'r golau gan ddyfais megis prism. Mae golau gwyn (megis golau'r haul) yn gymysgedd o bob lliw, felly mae ganddo sbectrwm di-fwlch neu gyfan. Ond mae gan rai ffynonellau golau eraill, megis lampau sodiwm neu LED, sbectrwm rhannol sy'n cynnwys dim ond rhai amleddau o olau gyda bylchau rhyngddynt.

Sbectrwm
Mathcyflwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sbectrwm gweladwy

Mae sbectrwm allyriant rhai sylweddau yn cyfeirio at sbectrwm y golau y byddent yn ei fwrw allan, yn arbennig pan gânt eu poethi, ac mae eu sbectrwm amsugniad yn cyfeirio at y lliwiau sy'n gallu cael ei amsugno ganddynt. Oherwydd bod sbectra gwahanol gan sylweddau gwahanol, gellir darganfod pa sylweddau sy'n bresennol mewn sampl cemegol trwy edrych ar ei sbectrwm; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pethau pell, megis mewn seryddiaeth, na allent gael eu mesur yn uniongyrchol. Sbectrosgopeg ydy enw'r maes cyffredinol hwn o wyddoniaeth.

Yn ogystal â defnydd gwyddonol y gair, fe'i defnyddir yn drosiadol i gyfeirio at rywbeth sy'n amrywio rhwng dau eithaf, megis "sbectrwm" barn gwleidyddol. Roedd hefyd gyfrifiadur cartref cynnar yng Ngwledydd Prydain a enwyd yn "ZX Spectrum", gyda logo o sbectrwm arno.

Sbectrwm lliwiau golygu

Lliwiau'r sbectrwm golau gweladwy
lliw cyfwng tonfedd cyfwng amledd
coch ~ 700–635 nm ~ 430–480 THz
oren ~ 635–590 nm ~ 480–510 THz
melyn ~ 590–560 nm ~ 510–540 THz
gwyrdd ~ 560–490 nm ~ 540–610 THz
glas ~ 490–450 nm ~ 610–670 THz
fioled ~ 450–400 nm ~ 670–750 THz

Mae'r sbectrwm gweladwy yn cynnwys chwech prif liw. Hefyd:

  • mae'r gwrthrychau didraidd yn adlewyrchu pob lliw o'r golau sy'n edrych yn wyn
  • dydy'r gwrthrychau didraidd ddim yn adlewyrchu golau o unrhyw liw sy'n edrych yn ddu
Chwiliwch am sbectrwm
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.