Set o symptomau yw sciatica (neu sciatic neuritis)[1], sy'n cynnwys poen a ellir gael ei achosi gan gywasgiad cyffredinol ac/neu enynfa o un o'r pum gwreiddyn nerf sy'n creu'r nerf sciatic, neu gan gywasgiad ac/neu enynfa o'r nerf sciatic ei hun. Teimlir y boen yng ngwaelod y cefn, y pen-ôl, ac/neu amryw o rannau o'r goes a'r droed. Yn ogystal â phoen sy'n gallu bod yn ddifrifol, gall bod dideimlad, gwendid cyhyrol, pinnau a nodwyddau neu goglais, ac anhawster yn symyd neu'n rheoli'r goes. Dim ond lawr un och y corff bydd y symptomau'n cael eu teimlo fel rheol.

Ardal gluteal dde yn dangos a rhydwelïau a'r nerf sciatic

Er fod sciatica yn ffurf weddol gyffredin o boen cefn, caiff gwir ystyr y term ei gamddeallt yn aml. Yr enw ar set o symptomau yw sciatica, yn hytrach na diagnosis ar gyfer beth sy'n poeni'r nerf ei hun, mae hyn yn bwysig iw nodi gan fod triniaeth sciatica yn amrywio, yn dibynnu ar baeth yn union sy'n achosi'r symptomau.

Cofnodwyd y defnydd cyntaf o'r term sciatica ym 1451.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Sciatica. Dorland's Medical Dictionary.
  2. Geiriadur Saesneg Rhydychen, 2il argraffiad. "a1450a Mankind (Brandl)."
  Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.