Seachtain na Gaeilge

'Wythnos yr iaith Wyddeleg' yw ystyr Seachtain na Gaeilge. Defnyddir y talfyriad SnaG yn aml am y digwyddiad.[angen ffynhonnell]

Cynhelir hi yn flynyddol yn y bythefnos sy'n arwain at Ŵyl Sant Padrig yn yr Iwerddon ar 17 mis Mawrth. Er mai wythnos oedd hyd yr ŵyl yn wreiddiol fe'i hymestynwyd i bythefnos oherwydd ei phoblogrwydd. Penderfynwyd cadw'r enw 'wythnos' gan fod y term a'r cysyniad wedi magu ei phlwy. Mae'r ŵyl yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Wyddeleg. Mae'r digwyddiadau'n gallu cynnwys nosweithiau cymdeithasol, cerddoriaeth neu ddawnsio ar draws Iwerddon a hefyd o fewn cymunedau Gwyddelig ar draws y byd.

Hanes golygu

Sefydlwyd SnaG yn 1902 gan Conradh na Gaeilge. Ymysg ei sylfaenwyr oedd yr awdur a'r chwyldroadwr, Patrick Pearse. Roedd yn rhan o'r Dadeni Wyddelig oedd ar ddiwedd y bendwaredd ganrif ar bymetheg a dechrau'r 20g. Yn ddiweddar cymerwyd yr awennau o drefnu'r wythnos gan Foras na Gaeilge, corff a sefydlwyd yn 1999 i hyrwyddo a diogelu'r Wyddeleg ar draw Iwerddon yn sgîl arwyddo Cytundeb Gwener y Groglith. Yn 2012 penderfynwyd cyfuno'r wythnos fel rhan o ddathliadau an Rith - ras yr iaith Wyddeleg.

Arwyddair y digwyddiad yw croi na teanga - it's you (calon yr iaith - it's you).

CDs SnaG golygu

O 2005 cyhoeddwyd cyfres o CDs pop yn flynyddol o dan deitl Ceol 05, 06 ayyb. Ysytyr ceol yw 'cerddoriaeth'. Mae'r CDs yn cynnwys caneuon wedi eu cyfieithu a'u canu yn y Wyddeleg gan rai o grwpiau Saesneg eu hiaith mwyaf Iwerddon. Cyhoeddwyd caneuon gan grwpiau megis The Corrs, Paddy Casey, Mundy, The Frames, Damien Dempsey, Bell X1 a Declain O'Rourke. Yn 2011 dosbarthwyd y CDs am ddim gyda phapur dyddiol yr Irish Daily Star a'r orsaf radio pop ar-lein a digidol yn y Wyddeleg, Raidió Rí-Rá. Mae'r CDs bellach yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon wedi eu cyfieithu i'r Wyddeleg o'r Saesneg yn ogystal â rhai o CDs blaenorol.

Dolenni allanol golygu