Sean Connery

sgriptiwr ffilm a aned yn Fountainbridge, Scotland yn 1930 (1930–2020)

Actor a chynhyrchydd o Albanwr oedd Syr Thomas Sean Connery, a adnabyddir fel Sean Connery (25 Awst 193031 Hydref 2020).[1][2][3] Ef oedd y cyntaf i bortreadu yr asiant cudd James Bond ar ffilm. Mae Connery wedi ennill Gwobr yr Academi, Golden Globe a BAFTA. Yn 1987, enillodd Wobr yr Academi fel yr Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn The Untouchables. Cafodd ei urddo gan Elisabeth II, brenhines y DU yng Ngorffennaf 2000, ond ers hynny mae wedi datgan ei fod yn gryf o blaid annibyniaeth i'r Alban.

Sean Connery
GanwydThomas Sean Connery Edit this on Wikidata
25 Awst 1930 Edit this on Wikidata
Caeredin, Fountainbridge Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 2020 Edit this on Wikidata
Lyford Cay Edit this on Wikidata
Man preswylLyford Cay, Domaine de Terre Blanche, Kranidi, Marbella, Caeredin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Tollcross Primary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor cymeriad, actor, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, sgriptiwr, actor teledu, actor llais, dyn llaeth, pêl-droediwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • St. Cuthbert's Co-operative Society Edit this on Wikidata
Taldra1.89 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
TadJoseph Connery Edit this on Wikidata
MamEuphemia McLean Edit this on Wikidata
PriodDiane Cilento, Micheline Roquebrune Edit this on Wikidata
PlantJason Connery Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Henrietta, Gwobr y Cylch Beirniaid Ffilm i'r Actor Gorau, National Board of Review Award for Best Supporting Actor, German Film Award for Best Actor, Kansas City Film Critics Circle Award for Best Supporting Actor, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, MTV Movie Award for Best On-Screen Duo, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Anrhydedd y Kennedy Center, Jameson People's Choice Award for Best Actor, Marchog Faglor, Grand Officer of Order of Manuel Amador Guerrero, Gwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, CBE, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Ordre des Arts et des Lettres, Urdd Manuel Amador Guerrero, Golden Globes, Y Llew Aur, Gwobr Saturn Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.seanconnery.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Connery hefyd yn enwog am gadw'i acen Albanaidd mewn ffilmiau, waeth beth yw cenedligrwydd y cymeriad roedd yn ei chwarae. Er ei fod yn hŷn na'r mwyafrif o symbolau rhyw traddodiadol, cafodd ei enwi fel un o'r dynion mwyaf golygus yn barhaus gan amryw gylchgronau o ganlyniad i'w ymddangosiad garw.

Bywgraffiad golygu

Ei Fywyd Cynnar golygu

Cafodd Connery ei eni yn Fountainbridge, Caeredin, yn fab i Euphamia C. "Effie" (née Maclean), glanheuwraig a Joseph Connery, gweithiwr mewn ffatri a gyrrwr lorïau. Roedd ei dad yn Gatholig Rhufeinig o dras Gwyddelig a oedd a'i wreiddiau yn Swydd Wexford tra bod ei fam yn Brotestant Albanaidd. Mae Connery yn honni iddo gael ei alw'n Sean ymhell cyn iddo ddod yn actor gan ddweud fod ganddo ffrind Gwyddelig o'r enw Séamus pan oedd yn blentyn a pha bryd bynnag roedd y ddau gyda'i gilydd, byddai pawb yn ei alw wrth ei enw canol.

Ei swydd gyntaf oedd fel dyn llaeth yng Nghaeredin gyda Chymdeithas Cyd-weithredol St. Cuthbert's. Yna ymunodd â'r Lynges Frenhinol, ond yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau ar sail meddygol oherwydd briw ar y dwodenwm. Yn hwyrach dychwelodd i'r Gymdeithas Cyd-weithredol cyn gweithio mewn nifer o swyddi eraill gan gynnwys gyrrwr lorïau, labrwr, model i ddarlunwyr yng Ngholeg Celf Caeredin, sgleiniwr eirch ac fel magwr cyhyrau.

Yn ôl gwefan swyddogol Connery, daeth Connery yn drydydd yng nghystadleuaeth magu cyhyrau Mr. Universe yn 1953. Awgrymodd cyd-gystadleuwr, Johnny Isaacs, y dylai fynd i glyweliad ar gyfer y perfformiad llwyfan o South Pacific. Arweiniodd hyn Connery i fwy o waith ar lwyfan, teledu a ffilm. Cafodd rôl flaenllaw yng nghynhyrchiad Rudolph Cartier o Anna Karenina ar gyfer y BBC yn 1961. Actiodd hefyd yn Darby O'Gill a'r Little People (1959) yn serennu Albert Sharpe.

Pan oedd yn iau, roedd Connery yn beldroediwr brwd a chwaraeodd i dîm o'r enw Bonnyrigg Rose. Cynigiwyd iddo chwarae mewn treialon ar gyfer tîm llwyddiannus Dwyrain Fife. Tra'n teithio gyda chast South Pacific, roedd Connery yn rhan o gêm beldroed yn erbyn tîm lleol roedd Matt Busby, rheolwr Manceinion Unedig wedi bod yn gwylio ar y pryd. Yn ôl adroddiadau, cynigiodd Busby gytundeb i Connery gwerth £25 yr wythnos yn union wedi i'r gêm orffen. Cyfaddefodd Connery ei fod wedi cael ei demptio i dderbyn y cynnig ond wrth gofio'n ôl dywedodd "I realised that a top-class footballer could be over the hill by the age of 30, and I was already 23. I decided to become an actor and it turned out to be one of my more intelligent moves."

Daeth ei rôl deledu Americanaidd gyntaf fel porthor yn un o raglenni'r The Jack Benny Show.

James Bond (1962–1967, 1971, 1983) golygu

 
Conner yn Marnie, 1964

Daeth llwyddiant mawr cyntaf Connery pan gafodd ei gastio yn rôl yr asiant cudd MI6 James Bond. Actiodd mewn saith ffilm Bond, gyda chwech ohonynt wedi'u cynhyrchu gan EON. Mae'r ffilmiau hyn yn cynnwys Dr. No (1962), From Russia with Love (1963), Goldfinger (1964), Thunderball (1965), You Only Live Twice (1967), Diamonds Are Forever (1971) a Never Say Never Again (1983) (answyddogol).

Darganfuwyd yr actor carismatig ac ysgafn-droed gan Harry Saltzman ac Albert R. Broccoli ar ôl i actorion eraill posib gael eu gwrthod. Roedd yr actorion hyn yn cynnwys David Niven (a chwaraeodd rhan Bond yn y sbŵf Casino Royale, ym 1967), Cary Grant, a James Mason; gwrthododd y ddau olaf i ymrwymo i gyfres ffilm. Roedd cyllid bychan y ffilm wedi gorfodi'r cynhyrchwyr i gyflogi actor anhysbys.

Ian Fleming golygu

Roedd crëwr James Bond, Ian Fleming yn amau a oedd y castio'n addas, gan ddweud "He's not what I envisioned of James Bond looks" a "I’m looking for Commander Bond and not an overgrown stunt-man," gan ychwanegu fod Connery (cyhyrog, 6' 2", ac Albanwr) yn anghoeth. Fodd bynnag, dywedodd cariad Fleming wrtho fod gan Connery y carisma rhywiol angenrheidiol. Yn fuan ar ôl llwyddiant agoriadol Dr. No, newidiodd Fleming ei feddwl; roedd wedi ei blesio cymaint nes iddo greu hanes hanner Albanaidd, hanner Swis i'r James Bond yn y nofelau a oedd i ddilyn.

Roedd portread Connery o Bond wedi'i lywio i raddau helaeth gan diwtora'r cyfarwyddwr Terence Young a roddodd sglein ar ei berfformiad tra'n defnyddio ei bresenoldeb a'i statws corfforol ar gyfer golygfeydd o gyffro. Ysgrifennodd Robert Cotton mewn cofiant am Connery bod Lois Maxwell (y Miss Moneypenny cyntaf) wedi sylwi ar y modd roedd "Terence took Sean under his wing. He took him to dinner, showed him how to walk, how to talk, even how to eat." Ysgrifennodd Cotton "Some cast members remarked that Connery was simply doing a Terence Young impression, but Young and Connery knew they were on the right track."

You Only Live Twice golygu

Ym mis Mehefin 1967, ar ôl ffilmio You Only Live Twice, rhoddodd Connery'r gorau i'r rôl, wedi iddo syrffedu ar y plotiau ailadroddus, diffyg datblygiad y cymeriad, disgwyliadau uchel y cyhoedd a'r ofn a gael ei deipgastio. Roedd hefyd yn ofni'r cyfeiriad ffantasi roedd y ffilmiau'n symud tuag atynt, gan ymbellhau o'r storïau gwreiddiol. Adroddwyd bod Connery yn awyddus i fod yn gyd-gynhyrchydd y gyfres wedi iddo gael ei ysbrydoli gan Dean Martin fel cyd-gynhyrchydd yn y gyfres Matt Helm. Sylwodd Connery nad oedd The Silencers wedi gwneud yn agos at yr arian a wnaeth Thunderball, ond gwyddai fod Martin yn gwneud mwy o arian nag ef.

Ei fywyd personol golygu

Bu Connery'n briod i'r actores Diane Cilento o 1962 tan 1973. Cawsant fab sef yr actor Jason Connery. Roedd yn briod gyda'r peintiwr Ffrengig Micheline Roquebrune (ganed 1929) ers 1975, hyd ei farwolaeth.

Roedd Connery, a oedd wrth ei fodd yn chwarae golff, arfer perchen y Domaine de Terre Blanche yn Ne Ffrainc am ugain mlynedd (o 1979) lle bwriadai adeiladu ei gwrs golff delfrydol ar y 300 hecter o dir ond ni wireddwyd ei freuddwyd nes i'r tir gael ei werthu i'r biliwnydd Almaenig Dietmar Hopp ym 1999.

Cyhuddiadau o gamdrin golygu

Yn ei hunangofiant "My Nine Lives" yn 2006, yn ogystal ag mewn cyfweliadau eraill ar y radio ac mewn print, honnodd Diane Cilento fod Connery wedi ei tharo ar sawl achlysur. Roedd Connery yn gwadu'r holl gyhuddiadau.[4]

Mewn cyfweliad gyda Barbara Walters ym 1987, tynnodd Connery nyth cacwn am ei ben pan ddywedodd ei fod yn dderbyniol i ddyn slapio menyw gyda grym cyfyngedig os oedd yn angenrheidiol i'w thawelu neu os oedd y dyn wedi cael ei wthio i mewn i "sefyllfa bryfoclyd".[5]

Iechyd golygu

Ym 1993, dywedwyd fod Connery yn derbyn triniaeth ymbelydrol am salwch yn ei wddf. Arweiniodd hyn ar y cyfryngau i adrodd fod gan yr actor cancr y gwddf ar ôl blynyddoedd o ysmygu trwm, gydag asiantaethau newyddion yn Siapan a De Affrica yn dweud ei fod wedi marw. Yn syth ar ôl hyn, ymddangosodd Connery ar y "Late Show with David Letterman" er mwyn gwadu'r straeon. Mewn cyfweliad ym 1995 gyda Entertainment Weekly, dywedodd fod y driniaeth er mwyn cael gwared o nodylau ar ei linnynau lleisiol. Bu farw ei dad, a oedd hefyd yn ysmygwr trwm o gancr y gwddf ym 1972. Yn 2003, cafodd lawdriniaeth i gael gwared ar cataracts ar ei ddwy lygad. Ar y 12 Mawrth 2006, cyhoeddodd ei fod yn gwella o driniaeth i gael gwared ar dyfiant ar ei aren. Ym mis Mehefin 2008, torrodd asgwrn yn ei ysgwydd tra'n chwarae golff yn Efrog Newydd.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gwsg dro nos ar 31 Hydref 2020 yn y Bahamas, yn ôl ei fab, ar ôl bod yn "sâl am beth amser". Cyhoeddodd y newyddion am ei farwolaeth gan ei deulu a EON Productions.[6] Roedd wedi bod yn sâl am beth amser a bu farw o niwmonia a methiant y galon.[6][7]

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Ymhlith y gwobrau a enillodd a'r anrhydeddau a roddwyd iddo y mae:

  • Gwobr Saturn am yr Actores Orau
  • Gwobr People's Choice
  • Dinesydd Anrhydeddus Sarajevo[8]
  • Gwobr Dinesydd y Byd, Sergio Vieira de Mello
  • Gwobr Rhyddid
  • Gwobr Dyneiddiaeth Jean Hersholt[9]
  • Duges-Gadlywydd Urdd y Seintiau Mihangel a Sior
  • Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau
  • Gwobr y Golden Globe am Actores Orau – Cyfres Fer neu Ffilm Deledu
  • Gwobr y Golden Globe am Actores Orau – Cyfres Fer neu Ffilm Deledu
  • Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd
  • Gwobr Kids 2015
  • Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol i'r Newydd-ddyfodiad Gorau
  • Gwobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Arbennig i Actores mewn Cyfres Fer neu Ffilm
  • Gwobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Arbennig i Actores mewn Rol Cefnogol
  • Gwobrau Ffilm Hollywood
  • Urdd San Fihangel a San Siôr

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1954 Lilacs in the Spring Dim credyd
1957 No Road Back Spike
Hell Drivers Johnny Kates
Action of the Tiger Mike
Time Lock Welder #2
1958 Another Time, Another Place Mark Trevor
A Night to Remember Titanic deck hand Dim credyd
1959 Darby O'Gill and the Little People Michael McBride
Tarzan's Greatest Adventure O'Bannion
1961 On the Fiddle Pedlar Pascoe
The Frightened City Paddy Damion
1962 The Longest Day Pte. Flanagan
Dr. No James Bond
1963 From Russia with Love James Bond
1964 Marnie Mark Rutland
Woman of Straw Anthony Richmond
Goldfinger James Bond
1965 The Hill Trooper Joe Roberts
Thunderball James Bond
1966 A New World Ei hun Cameo
A Fine Madness Samson Shillitoe
1967 You Only Live Twice James Bond
1968 Shalako Moses Zebulon 'Shalako' Carlin
1969 The Bowler and the Bonnet Ei hun Cyfarwyddwr; rhaglen ddogfen
1970 The Molly Maguires Jack Kehoe
1971 The Red Tent Roald Amundsen
The Anderson Tapes John Anderson
Diamonds Are Forever James Bond
1972 A Spain Golf Course Ei hun Pwnc fer
1973 The Offence Detective Sergeant Johnson
1974 Zardoz Zed
Murder on the Orient Express Colonel Arbuthnot
1975 Ransom Nils Tahlvik
The Dream Factory Himself Rhaglen ddogfen
The Wind and the Lion Mulay Achmed Mohammed el-Raisuli the Magnificent
The Man Who Would Be King Daniel Dravot
1976 Robin and Marian Robin Hood
1976 The Next Man Khalil Abdul-Muhsen
1977 A Bridge Too Far Maj. Gen. Roy Urquhart
1979 The First Great Train Robbery Edward Pierce/John Simms/Geoffrey
Meteor Dr. Paul Bradley
Cuba Maj. Robert Dapes
1981 Outland O'Niel
Time Bandits Brenin Agamemnon/Fireman
1982 G'ole! Adroddwr Rhaglen ddogfen
Five Days One Summer Douglas Meredith
Wrong Is Right Patrick Hale
1983 Sean Connery's Edinburgh Ei hun Pwnc fer
Never Say Never Again James Bond
1984 Sword of the Valiant: The Legend of Sir Gawain and the Green Knight The Green Knight
1986 Highlander Juan Sanchez Villa-Lobos Ramirez
The Name of the Rose William of Baskerville Gwobr BAFTA - Actor Gorau mewn Rôl Arweiniol
1987 The Untouchables Jim Malone Gwobr Academi Actor Cefnogol Gorau
Gwobr Golden Globe Actor Cefnogol Gorau mewn Ffilm
1988 The Presidio Lt. Col. Alan Caldwell
1989 Indiana Jones and the Last Crusade Professor Henry Jones
Family Business Jessie McMullen
1990 The Hunt for Red October Captain Marko Ramius
The Russia House Bartholomew 'Barley' Scott Blair
1991 Highlander II: The Quickening Juan Sanchez Villa-Lobos Ramirez
Robin Hood: Prince of Thieves King Richard I Dim credyd
1992 Medicine Man Dr. Robert Campbell
1993 Rising Sun Capt. John Connor Cynhyrchydd gweithredol hefyd
1994 A Good Man in Africa Dr. Alex Murray
1995 The Thief and the Cobbler Tack the Cobbler Llais; fersiwn gwreidio; heb ei gadarnhau
Just Cause Paul Armstrong Cynhyrchydd gweithredol hefyd
First Knight King Arthur
1996 Dragonheart Draco Llais
The Rock John Patrick Mason Cynhyrchydd gweithredol hefyd
1998 The Avengers Sir August de Wynter
Playing by Heart Paul
1999 Entrapment Robert MacDougal Cynhyrchydd hefyd
2000 Finding Forrester William Forrester
2003 The League of Extraordinary Gentlemen Allan Quatermain
2006 Sir Billi the Vet Sir Billi Llais - Rhyddhad 2008, wedi animeiddio

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad geni: 25 Awst 1930"Sean Connery". Gemeinsame Normdatei. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014. "Sir Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Thomas Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sean Connery". transfermarkt.com. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sean Connery". "Sean Connery". "Sir Sean Connery". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Dyddiad marw: 31 Hydref 2020"Sean Connery: James Bond actor dies aged 90". dyddiad cyrchiad: 31 Hydref 2020. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2020. "史恩康納萊90歲過世 曾演第一代007情報員" (yn Iaith Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina). 31 Hydref 2020. Cyrchwyd 31 Hydref 2020.CS1 maint: unrecognized language (link) Sindre Camilo Lode; Håkon Kvam Lyngstad (31 Hydref 2020). "Sean Connery er død". Verdens Gang (yn Bokmål). Cyrchwyd 1 Tachwedd 2020.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Sean Connery: James Bond actor dies aged 90, 2020-10-31, BBC News. Adalwyd ar 2020-10-31
  4. MacDonald, Stuart (2005-09-25). ["Jealous Connery beat me, says ex-wife" http://news.scotsman.com/topics.cfm?tid=652&id=1993262005.] Adalwyd ar 2007-09-29.
  5. "YouTube video of Connery interview". YouTube. Adalwyd ar 2007-09-29.
  6. 6.0 6.1 "Sean Connery: James Bond actor dies aged 90". BBC News (yn Saesneg). 31 October 2020. Cyrchwyd 31 October 2020.
  7. "Obituary: Sir Sean Connery". BBC News (yn Saesneg). 2020-10-31. Cyrchwyd 2020-10-31.
  8. http://www.bbc.com/news/entertainment-arts-18760368.
  9. "Angelina Jolie Academy Awards Acceptance Speech". Cyrchwyd 29 Chwefror 2024.
Rhagflaenydd:
dim
Actor James Bond
19621967
Olynydd:
George Lazenby
Rhagflaenydd:
George Lazenby
Actor James Bond
1971
Olynydd:
Roger Moore