Is-grwp o system gred grefyddol, gwleidyddol, neu athronyddol yw sect, bob amser wedi hollti o grwp mwy. Er i'r term gael ei ddefnyddio yn wreiddiol i gyfeirio at grwpiau crefyddol, mae bellach yn cyfeirio at unrhyw gorff sy'n torri i ffwrdd o gorff mwy er mwyn dilyn set gwahanol o reolau ac egwyddorion.

Map (Saesneg) yn dangos prif grefyddau ac enwadau'r byd 

Mewn cyd-destun Indiaidd, mae sect yn cyfeirio at draddodiad cyfundrefnol.

Mae'r gair sect yn tarddu o'r enw Lladin secta (ffurf ar y ferf sequi, i ddilyn[1]), sy'n golygu "ffordd, heol", ac yn ffigurol ffordd, modd neu ddull penodol. Felly, yn drawsenwol, disgyblaeth neu ysgol o feddwl sydd wedi'i diffinio gan set o ddulliau neu athrawiaethau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Harper, Douglas. "sect". Online Etymology Dictionary. etymonline.com. Cyrchwyd 2010-03-14. c.1300, "distinctive system of beliefs or observances; party or school within a religion," from Old French secte, from Late Latin secta "religious group, sect," from Latin secta "manner, mode, following, school of thought," literally "a way, road," from fem. of sectus, variant past participle of sequi "follow," from PIE *sekw- "to follow" (see sequel).