Sefydliad y Merched

Ffurfiwyd Sefydliad y Merched (Saesneg: Women's Institute) gyntaf yng Ngwledydd Prydain yn 1915, a hynny yn Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn. Cafodd y mudiad Sefydliad y Merched cyntaf yn y byd ei sefydlu yng Nghanada yn 1897, ond ffurfiwyd y mudiad yng Nghymru yn 1915 gyda'r nod o annog menywod i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gyflenwi bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Sefydliad y Merched
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Medi 1915, 1915 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifWomen's Library Archives Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.thewi.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau Sefydliad y Merched, Meifod, yn gwneud jam, 1941

Yn nhai'r aelodau y cynhaliwyd y cyfarfodydd ar y cychwyn. Dilynwyd y gangen gyntaf gyda changhennau yn Nghefn, Trefnant, Chwilog, Glasfryn, Llanystumdwy a Chricieth.

Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd canghennau lunio rhaglenni o waithgareddau a oedd yn seiliedig ar ddiddordebau'r aelodau.[1]

Yn 1967 ffurfiwyd Merched y Wawr gan Zonia Bowen a chriw y W.I. o'r Parc, y Bala, gan gynnig arlwy debyg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yng Nghymru.

Yn 2006 roedd gan y W.I. dros 500 o ganghennau yng Nghymru; 16,000 o aelodau.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 [1] Archifwyd 2017-10-01 yn y Peiriant Wayback. www.thewi.org.uk, adalwyd 10 Medi 2017