Segontium

caer yng Ngwynedd

Caer Rufeinig ger Caernarfon, Gwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru, yw Segontium (neu Segontiwm); cyfeiriad grid SH485624.

Segontiwm
Mathcaer Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.137344°N 4.265802°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN006 Edit this on Wikidata

Roedd Segontium yn gaer Rufeinig gynorthwyol a gysylltid â Deva (Caer), pencadlys milwrol y rhanbarth, gan ffordd Rufeinig ar draws gogledd Cymru. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Seiont, yn amddiffyn y rhyd gerllaw.

Cafodd y gaer gyntaf ei godi gan Agricola yn y flwyddyn 78. Caer bridd a phren dros dro ydoedd ar y dechrau ond codwyd muriau cerrig o'i chwmpas yn ddiweddarach. Roedd y gaer yn cael ei defnyddio neu ei adael yn ôl yr amgylchiadau. Gwelwyd cyfnod o adeiladu sylweddol yn ystod yr 2g. Ail-adeiladwyd rhannau o'r gaer yn ystod teyrnasiad Septimius Severus ar ddechrau'r 3g pan ychwanegwyd pencadlys llafurfawr a chyflenwad dŵr newydd trwy bibell danddaearol. Cafodd y gaer ei adael heb ei defnyddio yn hanner cyntaf y 4g ond fe'i meddianwyd o'r newydd rhwng 360 a chyfnod Magnus Maximus (gweler isod).

Stafell y trysorau (neu'r sacellum) lle cadwyd y gist arian.
Segontium

Mae cerrig rhannau isaf y muriau i'w gweld yno o hyd ynghyd â sylfeini adeiladau eraill fel y pencadlys ac olion Mithraeum, teml gysegredig i'r duw Mithras, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer. O amgylch y gaer, cafwyd hyd i weddillion vicus, sefydliad answyddogol i farsiandïwyr a gwragedd (answyddogol) y milwyr.

Mae'r gweddillion Rhufeinig a elwir Hen Waliau, rhwng y gaer a'r dref bresennol, yn dyddio o'r 3g pan adnewyddwyd y gaer gan Severus. Rhan o'r mur yn unig sydd i'w gweld heddiw. Ymddengys mai ystorfa o ryw fath ar gyfer y gaer oedd Hen Waliau, er bod rhai wedi dadlau ei fod yn gaer ar wahân.

Cysylltir Segontium â'r ymerodr Rhufeinig Magnus Maximus (Macsen Wledig) yn y chwedl Gymraeg ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig a ffynonellau eraill. Mae rhai ysgolheigion wedi cysylltu'r gaer â llwyth y Segontiaci; cyfeirir at y rhain gan Iŵl Cesar wrth roi hanes ei ail ymgyrch ym Mhrydain yn 55 CC yn ei Commentarii de Bello Gallico. Wedi iddo ennill buddugoliaeth yn erbyn Cassivellaunus yn nyffryn Afon Tafwys, ildiodd nifer o lwythau iddo, gan gynnwys y Segontiaci. Fodd bynnag, mae'r ffaith eu bod wedi dod i gysylltiad a byddin Cesar mor fuan ar ôl iddo lanio yn awgrymu mai llwyth o dde-ddwyrain Lloegr oeddynt.

Ceir amgueddfa ar y safle, sydd yng ngofal Cadw.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: CN006 a'r is-gaer yn CN094.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • I. Ll. Foster a Glyn Daniel, Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)
  • Frances Lynch, A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995)
  • R. E. Mortimer Wheeler, Segontium and the Roman occupation of Wales (Cymmrodorion, 1924)

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis