Selattyn

pentref yn Swydd Amwythig

Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Selattyn[1] (neu Sylatyn). Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Selattyn and Gobowen yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Selattyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSelattyn and Gobowen
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8981°N 3.0914°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ266339 Edit this on Wikidata
Map

Saif ger tref Croesoswallt. Mae'n gorwedd ar y ffin â Chymru ac mae ganddo gysylltiadau cryf â hanes a diwylliant Cymru. Hyd gyfnod y Deddfau Uno roedd Selattyn a'r ardal o'i gwmpas yn rhan o Gymru.

Yn Selattyn ceir plasdy hynafol Brogyntyn, canolfan ystad fawr a chwaraeodd ran bwysig yn hanes gogledd Cymru yn y cyfnod modern a chartref i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig a ddiogelir heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 9 Medi 2020