Seljalandsfoss

Seljalandsfoss, rhaeadr

Mae Seljalandsfoss yn rhaeadr yng Ngwlad yr Iâ.[1] Lleolir Seljalandsfoss yn Rhanbarth y De, wrth ymyl y brif ffordd sy'n amgylchynu'r ynys, Ffordd 1 ar hyd y ffordd sy'n arwain at Þórsmörk, Ffordd 249.[2] Ystyr yr enw yw rhaeadr Seljaland

Seljalandsfoss
Mathrhaeadr Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.6158°N 19.9928°W, 63.615452°N 19.988276°W Edit this on Wikidata
Map
Seljalandsfoss
Seljalandsfoss pronunciation

Cwympa'r rhaeadr 60m ac mae'n rhan o afon Seljalands sy'n tarddu yn rhewlif llosgfynydd Eyjafjallajökull.[3] Gall ymwelwyr gerdded y tu ôl i'r rhaeadr.[4] Dyma oedd y llosgfynydd enwog a ffrwydrodd yn 2010 gan achosi anhawsterau i awyrennau hedfan i Wlad yr Iâ.[5]

Dadlau golygu

 
Rhaeadr

Yn 2017 achosodd cynlluniau i adeiladu canolfan wybodaeth 2000m sgwâr ac 8 metr o uchder ger y rhaeadr dadlau mawr ar yr ynys.[6] Dadleua'r gwrthwynebwyr y byddai'r datlygiad yn anharddu golygfa a natur yr ardal a'r atyniad.[6][7]

Ymweliadau Ysgolion golygu

 
Tu ôl y rhaeadr

Mae Seljalandsfoss yn rhan o deithiau disgyblion ysgol o Gymru sy'n ymweld â Gwlad yr Iâ. Rhan o atyniad y rhaeadr yw fod modd i ymwelwyr sefyll y tu ôl iddi ac edrych trwy len y dŵr sy'n cwympo ar yr olygfa.

Diwylliant Poblogaidd golygu

Roedd Seljalandsfoss ar hyd cymal cyntaf The Amazing Race 6.

Mae fideo swyddogol cân Justin Biebier, I'll Show You yn cynnwys lluniau o lagwns ac afonydd rhewlifau yn ne'r ynys gan gynnwys Seljalandsfoss.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Iceland's Most Famous Waterfall Is Big Enough To Stand Inside, Which Is Pretty Incredible". The Huffington Post. 4 June 2014. Cyrchwyd 3 October 2015.
  2. Google Maps
  3. The Beautiful Waterfalls of South-Iceland; Seljalandsfoss, Skógafoss & Gljúfrabúi
  4. eland.com/places_and_photos_from_iceland/seljalandsfoss "Seljalandsfoss" Check |url= value (help). Hit Iceland. Cyrchwyd 18 November 2017.[dolen marw]
  5. https://www.theguardian.com/travel/2010/apr/15/iceland-volcano-flights-disruption
  6. 6.0 6.1 "Rauði bragginn gefur "mjög svo ranga mynd" af þjónustumiðstöðinni – Vísir". visir.is. Cyrchwyd 2017-05-09.
  7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :1
  8. Hafstad, Vala (3 November 2015). "Justin Bieber's Video, 'I'll Show You' (Iceland)". Iceland Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-22. Cyrchwyd 21 November 2015.

Dolenni golygu