Hylif organig yw semen, sy'n cynnwys sberm fel arfer. Fe'i secretir gan organau atgenhedlu anifeiliaid gwrywaidd neu ddeurywiol, er mwyn ffrwythloni wygelloedd benywaidd. Alldafliad yw'r enw ar yr hyn sy'n digwydd wrth i semen adael y corff.

Semen
Enghraifft o'r canlynolhylifau corfforol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathsecretiad, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Cynnyrchanifail, mamal Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfansoddiad semen dynol golygu

Mae semen yn cynnwys sberm (sy'n dod o'r ceilliau) a phlasma semenaidd (a gynhyrchir yn y fesiglau semenaidd, y chwarren brostad, a chwarrennau Cowper.


Dyma cyfansoddiad a tharddiad semen:

Chwarren % brasgywir Disgrifiad
Ceilliau 2-5%[1] Rhyddheir oddeutu 200- i 500-miliwn cell sberm ymhob alldafliad.
Fesigl Semenaidd 65-75% asidau amino, sitrad, ensymau, flafinau, ffrwctos (prif ffynhonnell ynni'r celloedd sberm), ffosfforylcholin, prostaglandinau (sy'n atal adwaith imiwnol yn y corff benywaidd), proteinau, fitamin C
Chwarren brostad 25-30% ffosffatas asidig, sitrad, ffibrinolysin, antigen prostad-benodol, ensym proteolytig, zinc
Chwarren Cowper < 1% galactos, mwcws (hyrwyddo mudiant y celloedd sberm yn y wain a cheg y groth. Cyfrannu at wead jelïaidd semen.), cyn-alldafliad, asid sialig

Disgrifiodd adroddiad Mudiad Iechyd y Byd semen dynol normal, fel yr hyn sydd â chyfaint o 2 ml neu fwy, pH o 7.2 i 8.0, crynodiad sberm o 20x106 cell sberm/ml neu'n uwch, 40x106 cell sberm neu fwy ymhob alldafliad, symudiad am ymlaen gyda 50% or celloedd sberm, a symudiad chwim gan 25% ohonynt.[2] Achos bod semen yn alcalïaidd (gwrthasid), gall rhyw geneuol helpu yn erbyn diffyg traul.

Ffynonellau golygu

  1. "uhmc.sunysb.edu". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-17. Cyrchwyd 2007-03-16.
  2. World Health Organization (2003). Laboratory Manual for the Examination of Human Semen and Semen–Cervical Mucus Interaction, 4th edition. Cambridge, UK: Cambridge University Press. t. 60. ISBN 0-521-64599-9.
Chwiliwch am semen
yn Wiciadur.