Seren Bundy-Davies

Athletwraig Cymreig yw Seren Bundy-Davies (ganwyd 30 Rhagfyr 1994). Fe'i ganed ym Manceinion i rieni Cymreig ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Wilmslow. Daeth i'r amlwg ar ôl ennill medal efydd yn y 400m ym Mhencampwriaethau Dan Do Ewrop yn 2015 a medal arian yn y ras gyfnewid 4 x 400m[1][2].

Seren Bundy-Davies
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnSeren Bundy-Davies
Ganwyd (1994-12-30) 30 Rhagfyr 1994 (29 oed)
Manceinion, Lloegr
Camp
GwladCymru
ChwaraeonAthletau
Camp400m
ClwbClwb Athletau Trafford
Diweddarwyd 15 Awst 2016.

Cafodd ei dewis fel yr unig aelod Cymreig o dîm athletau Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. "European Indoor Championships: Seren Bundy-Davies wins bronze". BBCSport. 2015-03-07.
  2. "Welsh duo Seren Bundy-Davies and Laura Maddox clinch European Indoor silver relay medals". WalesOnline. 2015-03-08.
  3. "Rio 2016: Bundy-Davies 'disappointed' to be Wales' sole track and field athlete". BBCSport. 2016-07-14.
  Eginyn erthygl sydd uchod am athletau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.