Seren sydd â maint a disgleirdeb sylweddol yn fwy na sêr y prif ddilyniant (neu gorrach) o'r un tymheredd yn seren gawr (hefyd seren gawraidd)[1]. Bathwyd y termau cawr a chorrach i ddisgrifio gwahanol sêr gan y seryddwr o Ddenmarc, Ejnar Hertzspung (1873 - 1967)[2] tua 1905. Maent yn ffurfio ar ôl iddynt orffen yr holl danwydd hydrogen yn eu creiddiau.

Mae Sêr Gewri yn ymddangos yn rhan uchaf diagram Hertzsprung–Russell, sy'n dosbarthu sêr yn ôl eu goleuni a'u tymheredd.

Ceir nifer o wahanol fathau, yn dibynnu yn bennaf ar ei màs cychwynnol.

Is-gewri

Cewri llachar

Cewri coch

Cewri melyn

Cewri glas

Cyfeiriadau golygu

  1. Andrew Fraknoi; David Morrison; Sidney C. Wolff (2016). Astronomy (PDF). OpenStax. tt. 637 ac eraill. ISBN 978-1-938168-28-4.
  2. Strand, K. Aa. (1968). "Ejnar Hertzsprung, 1873-1967". Publications of the Astronomical Society of the Pacific 80 (472): 51-56. http://articles.adsabs.harvard.edu//full/1968PASP...80...51S/0000051.000.html.