Grŵp o chwaraeon yw sgïo, sy'n defnyddio sgïau fel offer ar gyfer teithio dros eira. Defnyddir sgïau ynghyd â esgidiau sgïau sy'n cysylltu gyda'r sgïau gyda rhwymynnau sgïau.

Sgïo
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon gaeaf, recreational sport, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sgiwr Alpaidd yn troi

Caiff sgïo ei rannu'n sawl categori cyffredinol, sgïo Llychlynaidd yw'r fath hynaf o sgïo, mae'n tarddu o Sgandinafia ac yn defnyddio rhwymynnau sy'n cysylltu bysedd traed yr esgidiau i'r sgïau ond yn gadael y sawdl yn rhydd. Mae mathau o sgïo Llychlynaidd yn cynnwys sgïo traws gwlad, naid sgïo, a sgïo Telemark. Mae sgïo Alpaidd (a adnabyddir yn aml fel sgïo lawr-allt), yn tarddu o Alpau Ewrop, ac yn nodweddiadol am y rhwymynnau sy'n cysylltu bysedd traed a sodlau'r esgidiau i'r sgïau.

Fideo o sgïwr
Chwiliwch am Sgïo
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.