Sgwâr Soho

sgwâr yn Llundain

Sgwâr yn Soho, Dinas Westminster, canol Llundain, yw Sgwâr Soho gyda pharc a gardd yn ei chanol sy'n dyddio'n ôl i 1681. Ei enw gwreiddiol oedd  Sgwâr y Brenin ar ôl Siarl II, y mae cerflun ohono'n sefyll yn y sgwâr. Ar ganol yr ardd, mae cwt garddwr nodedig a ffrâm bren iddo. Yn ystod yr Haf, Soho Sgwâr cynhelir cyngherddau awyr-agored am ddim yn y sgwâr.

Sgwâr Soho
Mathsgwâr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Cysylltir gydaGreek Street, Frith Street, Carlisle Street, Soho Street, Bateman's Buildings Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5153°N 0.1322°W Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o Sgwâr Soho ym 1992

Hanes golygu

 
Monmouth House yn Sgwâr Soho, fe'i adeiladwyd ar gyfer Dûg Mynwy/Duke of Monmouth. Yn hwyrach dyma oedd preswylfa'r llysgenad Ffrengig, ond fe'i dymchwelwyd yn 1773.
 
Sgwâr Soho'n 1816. Yr adeg hynny roedd anifeiliaid fferm yn aml yn cael eu gyrru i Lundain.
 
Cerflun o Siarl/ Charles II gan Caius Gabriel Cibber sy'n sefyll yng nghanol Sgwâr Soho.

Adeiladwyd yn hwyr yn y 1670au, ac yn ystod yr amser hyn roedd Sgwâr  Soho yn ei flynyddoedd cynnar, yn un o'r lleoedd mwyaf ffasiynol i fyw yn Llundain. Enw gwreiddiol y sgwâr oedd  Sgwâr y Brenin, ar ôl y Brenin Siarl II. Mae cerflun o Siarl II a wnaed gan y cerflunydd Daneg Caius Gabriel Cibber yn 1681  wedi ei osod yng nghanol y Sgwâr. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd y cerflun ei disgrifio fel bod 'yn y cyflwr mwyaf  truenus; gyda'r arysgrifau ar sylfaen y pedestal yn eithaf aneglur'.[1] Yn 1875, fe'i symudwyd yn ystod newidiadau yn y sgwâr gan Thomas Blackwell, o Crosse & Blackwell, y cwmni cyfwyd (a oedd gyda sfale ar rif 20-21 Sgwâr Soho o ddiwedd y 1830au tan yr 1920au cynnar), a roddodd ef i'w cadw'n ddiogel at ei ffrind, yr arlunydd Frederick Goodall, gyda'r bwriad y gallai gael ei Adler. Gosododd Goodall y cerflun ar ynys yn ei llyn ar Grim Dyke, lle yr arhosod pan brynwyd yr eiddo gan y dramodydd W. S. Gilbert yn 1890, ac yno yr arhosodd ar ôl Gilbert farw yn 1911. Yn ei hewyllys, mynnodd Lady Gilbert fod y cerflun yn cael ei ddychwelyd, ac fe'i adferwyd i Sgwâr Soho'n  1938.[2]

Ganwyd William Thomas Beckford ar y 29fed o Fedi, 1760 yng ngharterf ei deulu'n rhif 22 Sgwâr Soho.

Yn y 1770au, symudodd y naturiaethwr Joseph Bandeau a oedd wedi amgylchynu'r byd gyda James Cook, i rif 32 Sgwâr Soho yng nghornel de-orllewin y sgwâr. Yn 1778, etholwyd Banks yn lywydd y Gymdeithas Frenhinol ac fe ddaeth ei gartref yn fath o salon wyddonol yn croesawu gwyddonwyr a ymwelai o dros y byd. Fe agorwyd ei lyfrgell a'i lysieufa a oedd yn cynnwys nifer o blanhigion a gasglwyd yn ystod ei deithiau i'r cyhoedd.

Rhwng 1778 a 1801 roedd y Sgwâr yn gartref i'r White House, puteindy gwaradwyddus yn y Manor House, 21 Sgwâr Soho.[3]

Yn 1862 symudodd  yr elusen Tŷ St Barnabas  rwond y gornel o Rose Street i 1 Greek Street  lle mae'n dal i fod hyd heddiw.[4]

Roedd gan Wilfrid Voynich  ei siop lyfrau hynafiaethol  yn Rhif 1 Sgwâr Soho o 1902. Roedd y cyhoeddwr Rupert Hart-Davis yn rhif 36 o tua 1947.

Roedd Fauconberg House  ar ochr ogleddol y sgwâr tan gafodd ei ddymchwel yn 1924.[5]

Mae dau o'r tai gwreiddiol, rhifau 10 a 15, yn dal i sefyll. Yn rhifau 8 a 9 mae  Eglwys Brotestannaidd Ffrengig Llundain, a adeiladwyd yn 1891-3.

Roedd Rhif 22 yn gartref i British Movietone[6] a Kay (West End) Film Laboratories, ar ôl cael ei ail-adeiladu yn ei ffurf bresennol rhwng 1913 ac yn 1914.

Am bron i ddeugain mlynedd, gan ddechrau yn 1955, roedd Sgwâr Soho yn gartref swyddogol i bencadlys yr animeiddiwr Richard Williams.

Y Presennol golygu

Mae Sgwâr Soho yn gartref i nifer o sefydliadau'r cyfryngau, gan gynnwys y Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain, 20th Century Fox,  Bare Escentuals, Deluxe Entertainment Group, Dolby Europe Ltd, Fin London, Paul McCartney's MPL Communications, Tiger Aspect Productions, Wasserman Media Group a See Tickets. Yn y 1990au roedd gan Sony Music  swyddfa yma. Mae eu label record  Sony Soho Square wedi ei ailenwi'n S2 Records.

Roedd pencadlys The Football Association yn Rhif  25 o Hydref 2000 hyd at 2009.

Mae'r sgwâr yn gartref i Eglwys San Badrig, eglwys fawr Babyddol ac eglwys y plwyf a leolir yn rhannol ar y safle yn Carlisle House sy'n cynnwys helaeth fawr o gladdgelloedd sy'n lledaenu yn ddwfn o dan y Sgwâr ac ymhellach i ffwrdd.

Y strydoedd sydd yn rhedeg oddi ar y sgwâr, gan ddechrau'n glocwedd o'r gogledd, yw Stryd Soho, Sutton Row, Stryd Greek, Batemans Buildings, Stryd Frith a Stryd Carlisle.

Cyfeiriadau diwylliannol golygu

 
Cofeb ar fainc coffa Kirsty MacColl yn Sgwâr Soho

Yn y llyfr A Tale of Two Cities  gan Charles Dickens,  Sgwâr Soho yw'r lle lle mae Lucie a'i thad, Doctor Manette, yn byw. Credir bod eu tŷ wedi cael ei modelu ar Dŷ San Barnabas a arferai Dickens ei ymweld, ac dyma'r rheswm pam fod y stryd sydd yn rhedeg y tu ôl i'r Tŷ o Stryd Groeg gyda'r enw Stryd Manette (oedd gynt yn Stryd Rose).

Yn y gân "Why Can't The English?" o'r sioe gerdd My Fair Lady, mae'r Athro Henry Higgins yn galarnadu, "Hear them down in Soho Square/Dropping H's everywhere."

Yn y nofel Jonathan Strange & Mr Norrell gan Susanna Clarke, mae'r eponymaidd Jonathan Strange a'i wraig Arabella yn cynnal cartref yn Sgwâr Soho fel eu cartref yn Llundain.[7]

Yng ngardd Sgwâr Soho mae mainc sydd yn coffáu y canwres Kirsty MacColl, a ysgrifennodd y gân "Soho Square" ar gyfer ei halbwm Titanic Days. Yn dilyn ei marwolaeth yn 2000, prynwyd mainc goffa gan ei chefnogwyr yn ei anrhydedd,  gyda'r arysgrif: "One day I'll be waiting there / No empty bench in Soho Square".[8]

Roedd albwm Lindisfarne  Elvis Lives On the Moon  hefyd yn cynnwys cân a enwir "Soho Sgwâr".[9]

Llefydd cyfagos golygu

  • Gorsaf danddaearol Tottenham Court Road
  • Oxford Street, i'r dogledd
  • Charing Cross Road, i'r dwyrain
  • Greek Street, i'r de

Cyfeiriadau golygu

  1. "Soho Square Area: Portland Estate: Soho Square Garden" Archifwyd 2014-10-19 yn y Peiriant Wayback. in Survey of London volumes 33 and 34 (1966) St Anne Soho, pp. 51–53. Date accessed: 12 January 2008.
  2. Photo of the statue Archifwyd 30 October 2006 yn y Peiriant Wayback.
  3. During, Simon (2004). Modern Enchantments: The Cultural Power of Secular Magic. Harvard University Press. tt. 110–111. ISBN 978-0-674-01371-1. ... the famous magic brothel, the White House at Soho Square, in which commercial sex was enhanced by dark, baroque special-effects and natural magic devices
  4. Sheppard, F. H. W (1966). Survey of London XXXIII Parish of St Anne Soho. 2 Gower Street, London: The Athlone Press University of London. t. 89.CS1 maint: location (link)
  5. Christopher Hibbert Ben Weinreb; John & Julia Keay (9 Mai 2011). The London Encyclopaedia (3rd Edition). Pan Macmillan. tt. 287–. ISBN 978-0-230-73878-2.
  6. Terry Gallacher. "Movietone News, the first days". Cyrchwyd 7 Chwefror 2013.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-02. Cyrchwyd 2017-12-27.
  8. "Bench in Soho Square". Kirsty MacColl. 2001-08-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-21. Cyrchwyd 2011-02-03.
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-27. Cyrchwyd 2017-12-27.

Dolenni allanol golygu