Brenhines Assyria yn y Dwyrain Canol o 811 CC hyd 808 CC (yn ôl pob tebyg) oedd Shammuramat neu Sammur-amat (hefyd Sammu-ramat a Sammuramat). Yn weddw y Brenin Shamshi-Adad V o Assyria, teyrnasodd am dair blynedd ar orsedd Assyria. Mae rhai cronolegau eraill yn awgrymu iddi deyrnasu o 809 hyd 792 CC.[1][2][3]

Darganfuwyd stele (carreg goffa) Shammuramat yn Ashur, ac mae arysgrif o hen ddinas Nimrud yn awgrymu ei bod mewn grym yno ar ôl marwolaeth ei gŵr a chyn teyrnasiad ei mab.

Erbyn heddiw mae'r Semiramis sy'n enwog mewn chwedl a llên yn cael ei hystyried yn ffigwr fytholegol yn unig; fodd bynnag ceir peth dystiolaeth yng nghofnodau Assyria sy'n awgrymu ei bod yn seiliedig ar hanesion am y Frenhines Shammuramat a ddaeth i'r Groegiaid ganrifoedd yn ddiweddarach. Ond nid yw pawb yn derbyn hyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Rise of the Babylonian World Power";
  2. Younan, Michael "Assyrian King List researched and edited by Michael Younan" Archifwyd 2007-12-08 yn y Peiriant Wayback.;
  3. Reilly, Jim (2000) "Contestants for Syrian Domination" yn "Chapter 3: Assyrian & Hittite Synchronisms" o The Genealogy of Ashakhet Archifwyd 2012-03-11 yn y Peiriant Wayback.;