Shane Williams (paentiad)

paentiad gan David Griffiths

Paentiad olew gan yr arlunydd David Griffiths (g. 1939) yw Shane Williams. Mae'r llun yn mesur 100 wrth 123 cm.

Shane Williams (2012) gan David Griffiths

Magwyd Griffiths ym Mhwllheli, ar ôl i'r teulu symud yno o Lerpwl, ble y cafodd ei eni.[1] Wedi iddo adael yr ysgol mynychodd goleg y Slade yn Llundain. Caiff ei ystyried yn un o arlunwyr gorau gwledydd Prydain.

Peintiwyd y llun olew 30 x 40 modfedd hwn ar ganfas yn 2012.[2] Ymhlith y paentiadau eraill gan Griffiths mae: Gwynfor Evans, Siân Phillips, Bryn Terfel a Syr Geraint Evans. Yn y llun gwelir Shane yn gwisgo gwisg Cymru, wedi iddo chwarae'r gêm ryngwladol olaf dros ei wlad - yn erbyn Awstralia. o graffu'n agos, gwelir hefyd y geiriau "Bye bye!", gan iddo bwytho'r geiriau ar ei esgidiau.[3]

Europeana 280 golygu

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Portreadu'r Cymry (Portraying the Welsh)". Llais Llên (yn Welsh). BBC Cymru Wales. 15 Awst 2002. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2005.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 15 Mai 2016.
  4. Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol golygu