Ci sy'n tarddu o Tsieina yw'r Shar Pei.

Shar Pei
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Shar Pei

Brîd hynafol yw'r Shar Pei, a chredir iddo ddatblygu yn Tsieina tua 200 CC. Cafodd ei ddefnyddio'n gyntaf fel ci hela a gwarchod, ac yn hwyrach roedd yn gi ymladd poblogaidd. Yn sgil cyflwyniad bridiau ymladd mwy o faint o'r Gorllewin, lleihaodd niferoedd y Shar Pei ac yn y 1940au cododd y Blaid Gomiwnyddol drethi ar gŵn ac yn y bôn gwaharddwyd bridio cŵn yn Tsieina. Roedd y Shar Pei yn un o fridiau prinaf y byd, ond goroesodd mewn ardaloedd cyfagos megis Hong Cong. Cyflwynwyd y Shar Pei i'r Unol Daleithiau ym 1966, ac ers hynny mae poblogaeth a phoblogrwydd y brîd wedi cynyddu'n sylweddol.[1]

Mae ganddo daldra o 45 i 50 cm (18 i 20 modfedd) ac yn pwyso 21 i 28 kg (45 i 60 o bwysau). Ystyr shar pei (沙皮) yw "croen tywod" sydd yn cyfeirio at gôt byr a garw'r brîd hwn, a all fod yn lliw hufen, coch, neu siocled. Mae ganddo groen llac sydd yn grychlyd iawn pan yn genau, ond wrth iddo dyfu mae'n colli'r mwyafrif o'i grychion ac eithrio'r rhai ar ei wyneb a'i ysgwyddau. Mae ganddo drwyn llydan a gaiff ei gymharu'n aml ag afonfarch. Yn debyg i'r Tsiow Tsiow, mae gan y Shar Pei dafod glas-ddu, ond nid oes sicrwydd ynglŷn â pherthynas rhwng y ddau frîd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Chinese shar-pei. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.