Shirley Valentine

Drama gan Willy Russell yw Shirley Valentine.

Shirley Valentine
Clawr yr addasiad Cymraeg o'r ddrama "Shirley Valentine"
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurWilly Russell Edit this on Wikidata
Genrecomedi Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afEveryman Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1986 Edit this on Wikidata

Plot golygu

Monolog gan wraig ddosbarth gweithiol, ganol-oed o Lerpwl yw'r ddrama hon. Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar fywyd Shirley Valentine a'r trawsnewidiad sy'n digwydd i'r bywyd hwn pan mae'n mynd am wyliau tramor. Treulia Shirley gryn dipyn o amser yn meddwl beth ddigwyddodd i'r Shirley Valentine ifanc a heriol a oedd yn llawn dewrder ac nad oedd yn ofni'r un dim. Bellach, mae ei bywyd yn rhigolaidd ac undonog ac o ganlyniad siarada Shirley â'r wal tra'n paratoi wy a tships ar gyfer ei gŵr Joe. Yn y ddrama, enilla ffrind Shirley wyliau i ddau i Wlad Groeg ac mae Shirley'n benderfynol o fynd. Pacia'i bag, gadawa nodyn ar fwrdd y gegin ac aiff i Wlad Groeg am bythefnos o ymlacio. Tra yng Ngwlad Groeg, caiff Shirley berthynas gyda gŵr o'r enw Costas ac o ganlyniad i'r perthynas hwn, daw Shirley'n ymwybodol o'i hunaniaeth a sylweddola pa fath o fodolaeth a allai fod ganddi pe bai'n ymdrechu ychydig yn fwy.

Cynyrchiadau golygu

Comisiynwyd y ddrama gan yr Everyman Theatre yn Lerpwl, a chafodd ei pherfformiad cyntaf ym 1986 gyda Noreen Kershaw wedi'i chyfarwyddo gan Glen Walford. Dwy flynedd yn ddiweddarach, agorodd y ddrama yn West End Llundain yn y Vaudeville Theatre, gyda Pauline Collins wedi'i chyfarwyddo gan Simon Callow.

 
Pauline Collins fel Shirley Valentine yn siarad â'r wal mewn perfformiad ar Broadway

Agorodd y cynhyrchiad ar Broadway ar yr 16eg o Chwefror, 1989 yn y Booth Theatre. Unwaith eto, chwaraewyd y brif ran gan Collins a chynhyrchwyd y ddrama gan Callow. Parhaodd y sioe am 324 o berfformiadau. Yn hwyrach, cymerodd Ellen Burstyn le Collins yn y ddrama.

Chwaraeodd Loretta Swit ran Shirley Valentine yn y daith ryngwladol o amgylch yr Unol Daleithiau yn 1995.

Addasodd Russell ei waith ar gyfer y fersiwn ffilm Lewis Gilbert o'r ddrama ym 1989. Ail-ddychwelodd Collins i'w rôl ac roedd y cymeriadau a gyfeiriwyd atynt yn unig yn y ddrama wreiddiol yn cael eu hactio gan Tom Conti, Alison Steadman, Joanna Lumley, Bernard Hill, a Sylvia Sims. Ffilmiwyd rhannau o'r ffilm yn Mykonos un o'r Ynysoedd Groegaidd yn y Mor Aegean.

Gwobrau ac Enwebiadau golygu

  • Gwobr Laurence Olivier am y Comedi Gorau (enillydd)
  • Gwobr Laurence Olivier am yr Actores Orau (enillydd)
  • Gwobr Tony am y Ddrama Orau (enwebwyd)
  • Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama (enillydd)
  • Gwobr Theatre World am Sioe Newydd Arbennig ar Broadway (enillydd)
  • Gwobr Drama Desk am Ddrama Newydd Arbennig (enwebwyd)
  • Gwobr Drama Desk am Actores Arbennig mewn Drama (enillydd)
  • Gwobr Drama Desk Award am Cyfarwyddo Arbennig o Ddrama (enwebwyd)
  • Gwobr Outer Critics Circle am Actores Orau (enillydd)
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Dolenni allanol golygu