Shulamith Firestone

Awdur a ffeminist o Ganada oedd Shulamith Firestone (llysenw poblogaidd: "Shulie"[1]; 7 Ionawr 1945 - 28 Awst 2012). Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Dialectic of Sex. Roedd Firestone yn un o sefydlwyr tri grŵp radical-ffeministaidd: New York Radical Women, Redstockings, a New York Radical Feminists.

Shulamith Firestone
GanwydShulamith Bath Shmuel Ben Ari Feuerstein Edit this on Wikidata
7 Ionawr 1945 Edit this on Wikidata
Ottawa Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 2012 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
AddysgLicentiate Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Washington yn St. Louis
  • Ysgol Gelf Chicago
  • Telshe yeshiva Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Dialectic of Sex Edit this on Wikidata
MudiadFreudo-Marxism, ffeministiaeth radical Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Ottawa a bu farw yn Ninas Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Washington yn St. Louis ac Ysgol Gelf Chicago.[2][3][4][5]

Ym 1970, ysgrifennodd Firestone The Dialectic of Sex: The Case for Feminist Revolution. Cyhoeddwyd y llyfr ym mis Medi'r flwyddyn honno, a daeth yn destun ffeministaidd dylanwadol iawn.[6] Dywedodd Naomi Wolf am y llyfr yn 2012: "Ni all unrhyw un ddeall sut mae ffeministiaeth wedi esblygu heb ddarllen y garreg filltir radical, ymfflamychol, ail-don hon."[7]

Magwraeth golygu

Ganwyd Firestone Shulamith Bath Shmuel Ben Ari Feuerstein[8] yn Ottawa, Canada. Hi oedd yr ail o chwech o blant[9] a merch gyntaf rhieni Iddewig Uniongred Kate Weiss, Almaenwr, a Sol Feuerstein, gwerthwr o Brooklyn. Ym mis Ebrill 1945, pan oedd Firestone yn bedwar mis oed, cymerodd ei thad ran yn y gwaith o ryddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen yn yr Almaen.[10][10][11][12]

Pan oedd hi'n blentyn, newidiwyd cyfenw'r teulu o Feuerstein i Firestone, a symud i St. Louis, Missouri. Roedd ei thad wedi trosi i Iddewiaeth Uniongred pan oedd yn ei arddegau ac, yn ôl Susan Faludi, roedd ganddo reolaeth dynn dros ei blant. Dywedodd un o'i chwiorydd, Tirzah Firestone, wrth Faludi: "Taflodd fy nhad ei gynddaredd at Shulie." Gwrthryfelodd yn erbyn rhagfarn rhyw'r (sexism) teulu. Roedd disgwyl i Shulamith wneud gwely ei brawd, "gan eich bod chi'n ferch", meddai ei thad wrthi. Mae Laya Firestone Seghi, chwaer arall, yn cofio't thad a Shulamith, mewn dadl, yn bygwth lladd ei gilydd.[10]

Coleg golygu

Mynychodd Firestone Seminarau'r Athro Yavneh yn Cleveland (chwaer sefydliad Telshe Yeshiva), a derbyniodd BA gan Brifysgol Washington yn St Louis ac ym 1967, gradd BFA mewn paentio gan Ysgol Sefydliad Celf Chicago (SAIC).[8][13] Yr un flwyddyn, yn ystod ei hastudiaethau yn SAIC, bu’n destun ffilm ddogfen i fyfyrwyr ond ni chafodd y ffil ei rhyddhau. Ailddarganfuwyd y ffilm yn y 1990au gan y gwneuthurwr ffilmiau arbrofol Elisabeth Subrin, a ail-greodd hi ffrâm-wrth-ffrâm, o’r rhaglen ddogfen wreiddiol, gyda Kim Soss yn chwarae’r Firestone 22 oed. Fe’i rhyddhawyd ym 1997[14] fel Shulie, gan ennill dwy wobr, gan gynnwys gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles 1997.[15] Mae'r ffilm yn darlunio Firestone fel myfyriwr ifanc a'i thaith i ddod yn un o'r ffeministiaid ail-don ac un o awduron ffeministaidd mwyaf nodedig yr 20g.[16]  

Cyhoeddiadau dethol golygu

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Butnick, Stephanie (Awst 30, 2012). "Shulamith Firestone (1945-2012)". Tablet Magazine.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  3. Dyddiad geni: "Shulamith Firestone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: "Shulamith Firestone (1945-2012)". 30 Awst 2012. "Shulamith Firestone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Crefydd: "Shulamith Firestone".
  6. Benewick, Robert and Green, Philip (1998). "Shulamith Firestone 1945–". The Routledge Dictionary of Twentieth-Century Political thinkers. Ail rifyn. Routledge, tt. 65–67.
  7. Cyfieithiad o'r Saesneg: "No one can understand how feminism has evolved without reading this radical, inflammatory, second-wave landmark."
  8. 8.0 8.1 Fox, Margalit (30 Awst 2012). "Shulamith Firestone, Feminist Writer, Dies at 67". The New York Times.CS1 maint: ref=harv (link)
  9. Encyclopedia of World Biography. Ed. Tracie Ratiner. Cyfrol 27. Ail rifyn. Detroit: Gale, 2007. t129-131.
  10. 10.0 10.1 10.2 Faludi, Susan (15 Ebrill 2013). "Death of a Revolutionary". The New Yorker.
  11. Reilly, Joanne (1998). Belsen: The Liberation of a Concentration Camp. London and New York: Routledge. t. 23.
  12. Hirsh, Michael (2010). The Liberators: America's Witnesses to the Holocaust. New York: Random House Publishing Group. t. 107.
  13. Ackelsberg, Martha (1 Mawrth 2009). "Shulamith Firestone, 1945–2012". Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia. Jewish Women's Archive. Cyrchwyd 24 Mehefin 2010.
  14. Brody, Richard (10 Ebrill 2015). "Recreating a Feminist Revolutionary". The New Yorker.
  15. "Elisabeth Subrin Trilogy". Video Data bank. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 24 Mehefin 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. Elisabeth, Subrin. "Shulie". Elisabeth Subrin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-27. Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.