Siân Eirian Rees Davies

awdures Gymreig

Awdures yw Siân Eirian Rees Davies (ganwyd 1981).

Siân Eirian Rees Davies
Ganwyd1981 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Man preswylPenrhyn Llŷn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa Daniel Owen Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd Davies ei geni ym Mangor yn 1981 a'i magu ar fferm ym Mhen Llŷn. Aeth i ysgolion cynradd Morfa Nefyn ac Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor gan ennill gradd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol a Gradd Meistr yn y Celfyddydau.[1]

Roedd yn diwtor Cymraeg ail-iaith am gyfnod yng Ngholeg Iâl Wrecsam cyn dychwelyd i'w chartref ym Mhwllheli. Hi oedd rheolwr cyntaf Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors, hen gartref Kate Roberts, pan agorodd yn 2007.[2]

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 gyda'i nofel hanesyddol I Fyd Sy Well am y Cymry yn ymfudo i Wladfa Patagonia.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Siân Eirian Rees Davies. Gwasg Gomer. Adalwyd ar 19 Medi 2016.
  2.  Agor Cae'r Gors. BBC Cymru (Mai 2007). Adalwyd ar 19 Medi 2016.