Siân Melangell Dafydd

bardd

Bardd o Llwyneinion ger Y Bala, Gwynedd, yw Siân Melangell Dafydd (ganed Ebrill 1977). Ffug enw: "Mynydd Segur", sef cam gyfieithiad o Montségur, Ariège, yn rhanbarth Midi-Pyrénées, Ffrainc (castell Cathar nid nepell o'r lle bu'n ysgrifennu'r rhan fwyaf o nofel ddiweddar).

Siân Melangell Dafydd
Ganwyd28 Ebrill 1977 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol St Andrews Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion Bro Tegid a Berwyn, Y Bala ond cwblhaodd ei Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Graddiodd gyda gradd MA mewn Hanes Celf o Brifysgol St Andrews, yr Alban, cyn gweithio mewn orielau gwahanol o Lundain i Chianti. Treuliodd flynyddoedd braf iawn fel Rheolwr Marchnata Sgript Cymru cyn mynd yn ôl i’r coleg i gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia (UEA), Norwich.

Cyflwynwyd y Fedal Ryddiaith yn 2009 iddi mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau ddiwedd brynhawn Mercher. Y beirniaid yn Y Bala oedd Manon Rhys, Tony Bianchi ac Elwyn Ashford Jones.

Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ac yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis. Golygydd y cylchgrawn Taliesin oedd hi.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau gwreiddiol golygu

Addasiadau golygu

Gwobrau ac Anrhydeddau golygu

Enillydd y Fedal Ryddiaith.

Dolenni allanol golygu