Bardd ydy Siôn Aled (enw llawn: Siôn Aled Owen).

Siôn Aled
Dyn yn sefyll yn y stryd
Y Prifardd Sion Aled
Ganwyd27 Ionawr 1957 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Cafodd ei eni ym Mangor a chafodd ei fagu ym Mhorthaethwy. Aeth i Brifysgol Aberystwyth.[1] Astudiodd wedyn yng Ngholeg y Drindod, Bryste a chafodd Ph.D. mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham.

Barddoniaeth golygu

Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981 am bryddest ar y teitl Wynebau.

Ef oedd enillydd cyfres Mastermind Cymru ar S4C yn 2007 gan ddewis 'Bywyd a barddoniaeth Goronwy Owen' fel un o'i bynciau.

Gwleidyddiaeth golygu

Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Wrecsam yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007.

Bywyd personol golygu

Mae'n byw yn Wrecsam gyda'i wraig a'i fab.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dagrau Rhew; Gwasg y Lolfa, ISBN 0904864898