Siôn Eirian

Awdur a dramodydd o Gymro

Awdur a dramodydd o Gymro oedd Siôn Eirian (26 Mawrth 195430 Mai 2020)[1][2] a ysgrifennai yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Siôn Eirian
GanwydSiôn Eirian Davies Edit this on Wikidata
26 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Hirwaun Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 2020 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadEirian Davies Edit this on Wikidata
MamJennie Eirian Davies Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Siôn yn Hirwaun yn fab i Eirian Davies a Jennie Eirian. Roedd ei dad yn weinidog a symudodd y teulu i Frynaman yn fuan wedi ei eni. Felly fe'i magwyd ym Mrynaman a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Brynaman. Roedd ei fam yn newyddiadurwraig, awdur, ymgeisydd gwleidyddol a golygydd cylchgrawn wythnosol Y Faner rhwng 1979 ac 1982.[3] Ganwyd ei frawd, Guto Davies yn 1958. Symudodd y teulu eto i'r Wyddgrug yn 1962 a mynychodd Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon. Graddiodd mewn Cymraeg ac Athroniaeth o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1975.[4] Dilynodd gwrs blwyddyn ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ym 1976. Daeth yn Gymrawd i'r coleg hwnnw.

Gwaith golygu

Teledu a Ffilm golygu

Ysgrifennodd ddramâu ffilm megis Marwolaeth yr Asyn o Fflint (1984), Noson yr Heliwr (A Mind to Kill) (1990), Gadael Lenin (1993) a phennod o gyfres Lynda la Plante, Lifeboat, ym 1994.[5]. Ef oedd crewr ac awdur y gyfres ddrama Pen Talar (2010) i S4C.

Creodd gyfres dditectif gyntaf S4C sef Bowen a'i Bartner (tair cyfres 1984 - 1988). Ef oedd un o grewyr ac awduron y gyfres boblogaidd Mwy na Phapur Newydd (1990 - 1994). Ysgrifennodd y gyfres gomedi Mostyn Fflint 'n aye! yn 2014, ar gyfer y cymeriad o'r Wyddgrug a grëwyd a pherfformiwyd gan ei gyfoeswr o'r un ysgol Cadfan Roberts.[6]

Rhwng 1979 a 1985, roedd yn awdur sgriptiau BBC Cymru ar raglenni sy’n cynnwys Pobol y Cwm.

Dramâu llwyfan golygu

Ysgrifennodd ac addasodd nifer o ddramâu yn y Gymraeg a'r Saesneg.[7] Ymhlith ei weithiau amlycaf ar lwyfan mae Wastad ar y Tu Fas, Elvis, y Blew a Fi ac Epa yn y Parlwr Cefn.[2]

  • Woman of Flowers - 2018, Cwmni Theatr Pena a Canolfan Gelfyddydau Taliesin. Addasiad o ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis.[8] Roedd y ddrama yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Pena a Taliesin Arts Centre.
  • Yfory - 2017, Cwmni Theatr Bara Caws.[9][10]
  • The Royal Bed - 2015 Theatr Pena
  • Garw -2014 Theatr Bara Caws
  • Cysgod y Cryman -2007 Theatr Genedlaethol Cymru. Addasiad o nofel Islwyn Ffowc Elis.
  • Hedfan Drwy’r Machlud - 2006, gan Gwmni Drama Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Epa yn y Parlwr Cefn - 2004 gan Gwmni Theatr 3D[11]
  • Nia Ben Aur - 2003 gan Theatr na n'Og
  • Cegin y Diafol -2001 Gwmni Drama Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Paradwys Waed - 2000 gan Theatr Bara Caws
  • The Soldier's Tale -1998. Addasiad newydd o opera Stravinsky i Music Theatre Wales
  • Epa yn y Parlwr Cefn - 1994 gan Cwmni Theatr Dalier Sylw
  • Blodeuwedd - 1992 gan Gwmni Theatr y Sherman
  • Woman of Flowers - 1991 gan Actors Touring Company
  • Dracula - 1991 gan Sherman Theatre Company
  • Elvis, y Blew a Fi -1988 Cwmni Hawyl a Fflag
  • The Rising (gyda Gwyn Alff Williams ac Alan Osborne) - 1987. Cwmni Theatr Moving Being
  • Wastad ar y Tu Fas -1986 Cwmni Hwyl a Fflag
  • City! -1984 Cwmni Made in Wales
  • Kipper -1983 Cwmni Theatr Clwyd
  • Crash Course - 1982, Cwmni Made in Wales
  • Rhys Lewis -1978 Cwmni Theatr Clwyd. Addasiad o nofel Daniel Owen.

Eisteddfod golygu

Enillodd Siôn Eirian y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978 am ei ddilyniant o gerddi dan y llysenw, 'Aman Bach'. Yn ddim ond 24 oed, ef oedd enillydd ieuaf y Goron erioed.[12][13] Roedd ei gerdd fuddugol yn darlunio llencyndod mewn modd cyfoes a chignoeth.

Cyn hynny, enillodd un o brif wobrau'r Urdd.

Bywyd personol golygu

Cyfarfu ei ddarpar wraig Erica Eirian pan oedd y ddau yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Roedd hi'n wreiddiol o Henley-on-Thames ac aeth ymlaen i fod yn actores a chyfarwyddwraig theatr. Priododd y ddau tua 1980. [14]

Bu farw Siôn Eirian yn 66 oed wedi salwch byr. Yn ôl gwasanaeth newyddion Golwg360 "Mae’n cael ei ystyried yn un o lenorion mwya addawol ei gyfnod ac ychydig bach o ‘enfant terrible’, yn ysgrifennu am fywydau pobol ifanc wrthryfelgar yn ôl yn y 70au. Mi sgrifennodd nofel Bob yn y Ddinas, oedd yn rhagflaenu llawer o’r ysgrifennu dinesig sydd wedi bod ers hynny."[2] Cafwyd teyrnged iddo gael amryw o bobl amlwg byd y ddrama, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru ar wefan newyddion, Nation Cymru.[15]

Llyfryddiaeth golygu

Cyhoeddodd amryw byd o lyfrau, gan gynnwys cerddi, nofel, dramâu, addasiadau o nofelau a chyfieithiadau.[16]

  • Plant Gadara -1975 Cyfrol o gerddi. Gwasg Gomer
  • Bob yn y Ddinas -1979 Nofel. Gwasg Gomer
  • Dros Bont Brooklyn : Cyfieithiad Sion Eirian O Ddrama Arthur Miller a View from the Bridge, 2003 [17] ISBN 0954561309
  • Cysgod y Cryman - Addasiad Llwyfan - 2007 Gwasg Gomer [18] ISBN 9781843238225 (1843238225)
  • Arolygydd y Llywodraeth - 2006, cyfieithaiad o 'The Government Inspector' gan Nikolai Gogol [19] Cyhoeddwr oleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ISBN 9780954561314 (0954561317)
  • Cegin y Diafol[20] - 2001, drama Gwasg Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ISBN 9781856446303 (1856446301)
  • Woman of Flowers / The Royal Bed -2018 Theatr Pena. Cyhoeddwyd gan Atebol. ISBN 9781912261451

Cyfeiriadau golygu

  1. @ericaeirian (12 Mehefin 2020). "ER COF AM DDRAMODYDD _ Taran ei theatr ni thewir, na melllt_fflam ei wên ni rewir;_y mae gwneud a gweud y gwir_mwy'n ddrama na ddirymir.__Jim Parc Nest__Siôn Eirian_26.3.1954_to_30.5.2020_Nos da fy nghariad" (Trydariad) – drwy Twitter.
  2. 2.0 2.1 2.2 Siôn Eirian wedi marw’n 66 oed , Golwg360, 31 Mai 2020.
  3.  DAVIES, JENNIE EIRIAN (1925-1982), newyddiadurwraig.
  4.  Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor (2015). "Tri dramodydd cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams", Thesis PhD.
  5. https://www.imdb.com/name/nm0251899/bio?ref_=nm_ov_bio_sm
  6.  Un sy'n falch o `wedi bod ene!' Annes Glynn yn sgwrsio a `mistar' Mostyn, Cadfan Roberts, amy gyfres boblogaidd. Daily Post (2 Hydref 2004). Adalwyd ar 23 Awst 2019.
  7. http://www.theatre-wales.co.uk/plays/author_playlist.asp?author=Sion%20Eirian
  8. https://www.asiw.co.uk/reviews/woman-flowers-sion-eirian-saunders-lewis-theatr-pena-2
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-22. Cyrchwyd 2019-08-22.
  10. https://anarchwaethus.wordpress.com/tag/sion-eirian/
  11. https://www.amazon.com/s?i=stripbooks&rh=p_27%3ASion+Eirian&s=relevancerank&text=Sion+Eirian&ref=dp_byline_sr_book_1
  12. https://www.bbc.co.uk/programmes/p00jd2td
  13. https://www.casgliadywerin.cymru/items/24269
  14. Welsh history brought to life; What's On / Q&A: ERICA EIRIAN OF THEATR PENA. , Daily Post, 27 Chwefror 2015. Cyrchwyd ar 31 Mai 2020.
  15. https://nation.cymru/culture/tributes-to-sion-eirian-1954-2020-poet-playwright-novelist-and-screenwriter/
  16. https://www.amazon.co.uk/Books-Sion-Eirian/s?rh=n%3A266239%2Cp_27%3ASion+Eirian
  17. https://www.brownsbfs.co.uk/Product/Eirian-Sion/Dros-Bont-Brooklyn--Cyfieithiad-Sion-Eirian-O-Ddrama-Arth/9780954561307
  18. http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781843238225/?session_timeout=1
  19. http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780954561314&tsid=2
  20. http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781856446303&tsid=4

Dolenni allanol golygu