Siôn Wyn ap Cadwaladr

gwleidydd Cymreig

Roedd Siôn Wyn ap Cadwaladr, bu farw tua 1589, yn uchelwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1559 i 1563 [1]

Siôn Wyn ap Cadwaladr
Bu farwc. 1589 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1559 Parliament Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

 
Hen blasdy'r Rhiwlas

Does dim cofnod o ba bryd yr anwyd Siôn Wyn ond roedd yn fab hynaf i Cadwaladr ap Robert ap Rhys o’r Rhiwlas. Ei fam oedd Jane ferch Meredydd ap Ieuan ap Robert o Wedir, Llanrwst.

Priododd Jane, ferch ac etifedd Thomas ap Robert ap Gruffydd ap Rhys, Llwyn Dedwydd, Llangwm. Bu iddynt 3 mab a 6 merch. Ei fab hynaf oedd Cadwaladr Wyn, a fabwysiadodd y cyfenw Price.[2]

Siôn Wyn oedd yn gyfrifol am adeiladu hen blasty Tuduraidd y Rhiwlas a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1574 ac a dymchwelwyd ym 1951.

Gyrfa gyhoeddus golygu

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1559 i 1563; Siedwr Meirionnydd o 1564-1565; ynad heddwch o 1573; Uchel Siryf Meirionnydd o 1576 i 1577 ac eto o 1585 i 1586 ac fel dirprwy raglaw o 1587 hyd ei farwolaeth. Roedd gyrfa gyhoeddus Siôn Wyn wedi ei selio yn bennaf ar ei gysylltiadau teuluol ag ystadau Rug, Plas Iolyn a Gwydir yn hytrach nag ar sgiliau gwleidyddol, gweinyddol neu ddyfeisgarwch personol.[3]

Noddwr Beirdd golygu

Roedd Siôn Wyn, a’i dad Cadwaladr ap Rhys yn noddwyr amlwg i’r beirdd. Ymysg y beirdd a dderbyniodd lletygarwch yn Rhiwlas bu Gruffydd Hiraethog, William Llŷn, Simwnt Fychan, Owain Gwynedd, William Cynwal, Siôn Cent a Siôn Phylip.[4]. Canodd Siôn Tudur gywydd yn gofyn i Siôn Wyn i roi dryll i Humphrey Thomas, Bodelwyddan a bu Ieuan Tew Ieuanc yn fardd Teulu'r Rhiwlas yng nghyfnod Siôn Wyn a Cadwaladr, ei fab[5].

Marwolaeth golygu

Does dim sicrwydd am ddyddiad marwolaeth Siôn Wyn, ond ceir cyfeiriad ato fel y diweddar mewn dogfen ddyddiedig 1589.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Archaeologia Cambrensis Fifth Series Vol. VIII No. XXX April 1891 tudalen 19
  2. Griffiths, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families tud 247
  3. Smith, J Beverley a Smith Llinos History of Merionethshire Vol II, tud 673 Gwasg Prifysgol Cymru 2001
  4. Smith, J Beverley a Smith Llinos History of Merionethshire Vol II, tud 626 Gwasg Prifysgol Cymru 2001
  5. Y Bywgraffiadur PRICE (TEULU), Rhiwlas, plwyf Llanfor, sir Feirionnydd
  6. The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603, gol. P.W. Hasler, 1981 WYN AP CADWALADR, John (d.?1589), of Rhiwlas, Merion.
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Elis Prys
Aelod Seneddol Meirionnydd
15591563
Olynydd:
Elis Prys